Yr Angen

Yr Angen

'Band sy'n mynd i ddatblygu i fwy na hyn y gallan nhw ei ddychmygu nawr.' (Rhodri Llwyd Morgan)

Band roc ifanc o ardal Abertawe ydy Yr Angen. Enillodd y band gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 yn 2010 gan ddod yn fuddugol gyda'r gân Nawr Mae Drosto.

Aelodau'r band ydy Jac Davies (prif leisydd, gitar rythm), Jamie Price (gitar flaen), Gareth Jones (gitar fas) a David Williams (drymiau). Mynychodd holl aelodau'r band Ysgol Gyfun Gŵyr yn Nhregwyr, Abertawe.

Pan yn rhoi eu beirniadaeth ar y bandiau yn y rownd derfynol, dywedodd Ian Cottrell fod Nawr Mae Drosto yn "hit radio enfawr.... hit stadiwm enfawr". Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan fod y band "wedi datblygu y tu hwnt i bob disgwyl". Ychwanegodd Bethan Elfyn: "Ma nhw'n fand cyffrous ar gyfer y sîn a fyddwn i'n barod iawn i roi grŵp fel yma mewn sesiwn gan eu bod yn swnio fel bod ganddyn nhw ganeuon a bod popeth yn barod i fynd."

Cyrhaeddodd y band rif 10 yn siart C2 yng Ngorffennaf 2010. Yn ystod haf 2010 chwaraeodd y band yn Yr Wythnos Fach i BBC Radio 1 , Maes B, Gŵyl Bro Dinefwr a Sioe Frenhinol Cymru. Bu'r band hefyd yn recordio sesiwn ar gyfer C2, ac yn perfformio ar Faes B yn 2011. Chwaraeodd y band sesiwn acwstig i raglen Dodd Com ar C2 BBC Radio Cymru yn Ebrill 2011.

Sesiynau

Yr Angen

Sesiwn fyw Yr Angen yn arbennig i C2

21 Ebrill 2011

Sesiwn fyw a recordiwyd yn arbennig i raglen Dodd com.

Yr Angen

01 Hydref 2010

Sesiwn gan Yr Angen - 3 can newydd yn arbennig i C2.

Adolygiadau

Yr Angen

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

BBC Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.