Project electronig Gruff Jones, 18 oed, o Fangor, sy'n creu cerddoriaeth electro 'house' gydag elfennau o gemau cyfrifiadurol ydy Crash.Disco!
Wedi'i ddylanwadu gan gerddoriaeth 'house' Ffrengig, dyma ddiddordeb annisgwyl i'r bachgen o Ogledd Cymru, ond dechreuodd ennill sylw yn lleol gan gigio yn Undeb y Myfyrwyr ym Mangor yn rheolaidd ac yntau ond yn 17 oed ar y pryd.
Llwyddodd i dynnu sylw Huw Stephens wnaeth gynnwys Crash.Disco! yn ei restr chwarae ar Radio 1. O ganlyniad, enillodd slot yng Ngŵyl Ymylon 'Big Weekend' Radio 1 ym Mangor.
Nesa daeth cyfle i gigio yn Camden ac enillodd gystadleuaeth Maes B yn 2010 yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy.
Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn dda i Crash.Disco! Enillodd Wobr Roc a Phop BBC Radio Cymru am y Band a ddaeth i amlygrwydd yn y flwyddyn ddiwethaf ac mae ei gerddoriaeth electro unigryw wedi denu clod gan y beirniaid:
"Daft Punk wedi gormod o 'E numbers'... yn gyfuniad heintus o blips gemau fideo a llinellau synth grymus. Yn syml, dyma sain boi ifanc yn creu cerddoriaeth dros ben llestri." (Sean Griffiths)
Mae Gruff wedi rhyddhau nifer o senglau ar ei liwt ei hun, nawr edrychwn ymlaen at yr albwm!
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Manic Street Preachers, Gwyl Swn, Sengl Newydd Swci a llawer mwy...
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am ffilm Ryan Kift, y Penwythnos Mawr a chyfle arbennig i ffans Stereophonics...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
BBC Wales Music

More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.


