
Brenin yr anthemau pop a'r baledi myfyriol sydd wedi cyrraedd uchelfannau poblogrwydd yn y sin roc Gymraeg.
Aelodau presennol band Bryn Fôn
- Bryn Fôn: Llais
- Neil Williams: Bas
- John Williams: Allweddellau
- Graham Land: Drymiau
- Rhys Parry: Gitâr
- Siân Land: Llais
- Nia Plas: Llais
Go brin fod neb arall sy'n canu'n Gymraeg yn unig wedi diddanu cymaint o gynulleidfa dros yr ugain mlynedd diwethaf na Bryn Fôn.
Yn anterth Sobin a'r Smaeliaid ddiwedd yr wythdegau a dechrau'r nawdegau, dyma oedd prif grŵp Cymru, a Bryn Fôn oedd pin-up miloedd o ferched ledled Cymru.
Caneuon anthemig poblogaidd oedd rhai Sobin, yn eu plith Meibion y Fflam, cân yn gwawdio'r heddlu am fod mor ddi-glem wrth chwilio am losgwyr Meibion Glyndŵr. Wedi i Bryn Fôn ei hun gael ei arestio yn 1991 ar amheuaeth o fod yn un o'r Meibion, dim ond tyfu wnaeth ei boblogrwydd ymysg cefnogwyr o bob oed.
Yn 1994, daeth cyfeiriad newydd wrth iddo recordio albwm o ganeuon mwy myfyriol, Dyddiau Digymar - ac ers hynny, mae wedi perfformio fel Bryn Fôn a'r Band. Yn 2001 sefydlodd y grŵp eu label eu hunain, gan barhau i recordio a pherfformio yn gyson oddi ar hynny. Rhyddhaodd ddwy albym newydd-'Abacus' yn 2008 ac 'Y Goreuon 1994 - 2005" yn 2009.
Yn ogystal â'r caneuon pop cofiadwy, mae Bryn Fôn ar ei orau yn canu caneuon a baledi canu gwlad melodaidd rhai o gyfansoddwyr gorau Cymru, Emyr Huws Jones ac Alun 'Sbardun' Huws. Fel Dafydd Iwan o'i flaen, mae Bryn Fôn yn un o'r ychydig o berfformwyr Cymraeg sydd wedi llwyddo i ehangu poblogrwydd canu Cymraeg y tu hwnt i'r indie kids a'r gynulleidfa golegol, gyfryngol arferol.
Newyddion

Albym newydd Bryn Fon
02 Tachwedd 2007
Bydd albym newydd Bryn Fôn a'r Band - Toca - yn cael ei ryddhau ar Ragfyr 1af.
Albym newydd Bryn Fon
02 Tachwedd 2007
Bydd albym newydd Bryn Fôn a'r Band - Toca - yn cael ei ryddhau ar Ragfyr 1af.
CDs Pesda Roc a Mim Twm
Gorffennaf 7, 2005
Adolygiadau

Erthyglau
Bryn Fôn
Chwefror 19, 2004
Bryn Fôn
Chwefror 19, 2004
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Parti "foam" Maes B, albym newydd Meic Stevens a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
BBC Wales Music

More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

