BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Celtiaid

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Y Celtiaid

Gemau a storiau

Ffeil ffeithiau

Ble yng Nghymru

Eich Crefftau Celtaidd

Rhieni ac athrawon

English

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gemau a storiauFfeil FfeithiauEich Crefftau CeltaiddBle yng NghymruRhieni ac athrawonEnglish

Llyn Fawr, Hirwaun

Cleddyf Llyn Fawr

Safle hynod o bwysig lle darganfuwyd tystiolaeth gynharaf o waith haearn ar Ynysoedd Prydain. Llyn gwneud ydy Llyn Mawr wedi'i greu yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Pan oedd gweithwyr yn clirio mawn o waelodion y llyn blaenorol darganfuwyd gwrthrychau efydd a haearn, gan gynnwys dau grochan efydd anferth, yn awr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, bwyellau efydd a chrymanau, tresi harnes cheffylau efydd, rasel triongl ar gyfer siafio, a rhan o gleddyf haearn wedi'i addurno'n gelfydd gyda dolen o esgyrn. Mae'r cleddyf yn enghraifft brin o offer milwrol wedi'i fewnforio. Mae cryman haearn yn cynrychioli y dystiolaeth gynharaf o waith haearn brodorol ar ynysoedd Prydain, yn dyddio i tua 600 CC.

Credai archeolegwyr i'r gwaith metel yma gael ei daflu i'r llyn 2500 o flynyddoedd yn ôl fel offrwm i dduwies y dwr. Roedd y Celtiaid yn taflu offrymau defod i'r dwr mewn gobaith o dawelu'r duwiau. Yn fwy na thebyg roedd seremoniau o'r fath yn cael eu trefnu gan glerigwyr Celtaidd proffesiynol, a adnabyddwyd fel derwyddon.

Mae'r casgliad yn y llyn yn dystiolaeth hynod bwysig o system o gredodau dwfn. Yn fwy na thebyg roedd y seremoniau yma yn ddigwyddiadau mawr a phobl o bob man yn eu mynychu, gan ddangos ymdeimlad cynyddol o anobaith ynglyn â gelynion newydd, pwerus ar y gorwel. Hyd yn oed heddiw, wrth sefyll ar yr argae concrid o'r gronfa ddwr, mae'r amffitheatr naturiol Llyn Mawr wrth droed y Rhigos yn creu awyrgylch unigryw.

Cyfarwyddiadau

Gadewch yr A465 (ffordd y Blaenau) yn Hirwaun a chymerwch yr A4061. Ar ôl pasio Pwll Glo'r Twr ar y dde, y ffordd nesa ar y dde yw trac coedwigaeth at y safle sydd ar gyfer cerddwyr yn unig. Nid oes maes parcio. Mae'r safle tua hanner milltir ar hyd y trac coedwigaeth.

©AOCC




Map © Crown copyright. All rights reserved BBC AL100019855 2002


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy