Mae Canrif o Brifwyl yn adrodd hanes Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif drwy gyfrwng yr Eisteddfod Genedlaethol. Ac nid hanes Cymru yn unig, ond y modd y mae'r Cymry wedi newid o safbwynt eu ffordd o feddwl. Mae hefyd yn adrodd hanes Ewrop a hanes y byd yn gyffredinol, ac yn dangos sut y bu i ddigwyddiadau hanesyddol effeithio ar Gymru ac ar yr Eisteddfod. Cyflwynwyd Canrif o Brifwyl mewn pedwar cyfrwng; teledu a radio yn ystod Chwefror a Mawrth 2000, a mewn arlein a dau lyfr. Ar yr arlein ceir siawns i ddilyn amlinelliad o gynnwys pob rhaglen, addasiad cyflawn o sgriptiau'r rhaglenni teledu, a llinell amser. Ar y llinell amser ceir manylion am brif ddigwyddiadau hanesyddol, a'r Eisteddfod Genedlaethol, ym mhob blwyddyn o'r ugeinfed ganrif. Mae manylion am leoliad pob Eisteddfod, yr Archdderwyddon, a manylion am y prif gystadlaethau llenyddol. Ceir tetsun pob Cadair a Choron ynghyd a manylion o'r beirniaid, yr enillydd, cerdi gwrthodedig ac ymateb a dadansoddiad Alan Llwyd o'r testun, y cerddi, a'r beirniaid. Os oes teitl cerdd wedi ei thanlinellu yna, drwy glicio ar y gerdd, cewch siawns i'w gyda lluniau o'r gyfres deledu. |