BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Drenewydd
Robert OwenAdnabod Robert Owen
Bywgraffiad o un o feibion enwocaf Y Drenewydd, a sylfaenydd y mudiad sosialaidd a chydweithredol yn y wlad hon.
Ganwyd Robert Owen yn Y Drenewydd yn 1771. Ef oedd Sosialydd cynharaf Prydain ac un o hoelion wyth y chwyldro diwydiannol.

Fe serennodd yn fachgen ysgol yn academaidd ac ar y cae chwarae. Yn ddeg mlwydd oed dewisodd i adael Y Drenewydd a chychwyn ar brentisiaeth â dilledydd (draper) yn nhref Stamford, Lloegr.

Ar ôl pum mlynedd symudodd i Fanceinion i weithio yn gyntaf fel dilledydd ac yna yn y diwydiant cotwm. Yn un ar hugain mlwydd oed roedd yn rheolwr ar felin newydd sbon a yrrwyd gan bŵer stêm a gyflogai dros 500 o weithwyr.

Ffurfiodd bartneriaeth i adeiladu rhagor o felinau cotwm yn nhalgylch Manceinion. Yna yn 1799 prynodd ei bartneriaeth drwch y melinau cotwm a phentrefi'r gweithwyr yn New Lanark, a phenodwyd Owen yn reolwr tros y fenter.

Er mae diwydiannwr mawr ydoedd, nid cyfalafwyr ydoedd o anghenraid. Yn wreiddiol bu Owen yn gefnogol i ryddfrydiaeth glasurol a iwtilitariaeth ysgolheigion megis Jeremy Bentham. Gydag amser serch hynny, trodd Owen yn Sosialydd gan wrthod y dadleuon y gallai'r farchnad rydd ar ei ffurf buraf ryddhau y dosbarth gweithiol.

Roedd yn anffyddiwr ers yn fachgen ifanc, a chanddo fawr o amser ac amynedd ar gyfer crefydd ffurfiol. Roedd yn ystyried crefydd fel proses cymdeithasol oedd yn llygru dyn ac yn eu rhwymo mewn cadwynau, gan annog hierarchaeth yn y gymdeithas.

Gwrthododd y ddysgeidiaeth fod cyflwr dyn wedi ei greu iddo ac yn anochel. Yn hytrach, roedd natur a chyflwr dyn yn cael eu liwio gan amgylchiadau a'r amgylchfyd o'i gwmpas nad oedd ganddo o reidrwydd reolaeth trosodd.

Ceisiodd Owen i wella cyflwr ac amgylchiadau ei weithwyr trwy wella eu amodau gweithio yn y gweithle, yn ogystal â chodi safon ac ansawdd eu bywydau. Gwnaethpwyd hyn trwy ddarparu ysgolion gyda'r nos i'w weithwyr a'r meithrinfeydd cyntaf o'i math i blant ei weithwyr gael mynychu gyda'r dydd.

Roedd addysg dda wrth graidd syniadau cymdeithasol ac economaidd Robert Owen. Roedd darparu system addysg dda yn fodd i godi safon bywyd person yn ogystal a hybu diwydiant a dyfeisgarwch economaidd. Cyhoeddodd eu syniadau yn ymwneud â addysg o dan y teitl "A New View of Society" a ddarllenwyd yn eang.

Roedd diweithdra enbyd erbyn 1815. Cynigodd Owen adeiladu Pentrefi Cydweithredol ar gyfer y di-waith, ond fe brofodd hyn yn rhy gostus iddo. Serch hynny, dyfalbarhaodd syniadau cydweithredol a sosialaidd Owen, ac fe anogodd fywydau cydweithredol i bawb. Yn 1824 prynodd dref o'r enw New Harmony yn nhalaith Indiana yn yr UDA er mwyn arbrofi ei syniadau cydweithredol a chymunedol. Methodd yr arbrawf yma gan fod hunanoldeb, cyfoeth a menter breifat oll wedi tyfu yn rhan annatod o isymwybod y bod dynol.

Pan ddychwelodd Robert Owen i Loegr darganfyddodd fod nifer o fusnesau cydweithredol wedi datblygu yno. Agorodd Cyfnewidfeydd Llafur i annog masnach a chysylltiadau economaidd rhwng y busnesau bychain yma. Erbyn 1834 roedd yn undebwr ac yn bennaeth ar un o undebau llafur mwyaf y wlad sef y Grand National Consolidated Trades Union. Cwympodd yr undeb llafur yma yn fuan wedi hynny yn sgil dedfrydu y Merthyron Tolpuddle i garchar.

Yn y cyfamser ffurfiodd y teulu gymuned gydweithredol yn Swydd Hampshire yn 1844, ond eto, fe fethodd yr arbrawf yma yn sgil gorwario ar adeiladau crand a moethus.

Dychwelodd Owen i fro ei febyd yn 1858 gan dreulio diwrnodau olaf ei oes yn Y Drenewydd. Bu farw yno yn yr un flwyddyn. Mae ei syniadau sosialaidd a chydweithredol yn parhau i oroesi ar ffurf y mudiad sosialaidd a'r undebau llafur cyfoes.

  • Mwy am Y Drenewydd
  • Mwy am enwogion lleol


  • Trefi
    Radio Cymru
    Lluniau
    Digwyddiadau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy