BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Drenewydd
Ty GregynogAtyniadau lleol
Rhai o atyniadau Y Drenewydd.
Oriel Davies
Mae enw'r oriel - Oriel Davies yn deyrnged i'r Chwiorydd Margaret a Gwendoline Davies Gregynog, a gyfrannodd yn fawr i'r byd Celf. Mae gan yr Oriel raglen o arddangosfeydd celf a chrefft drwy gydol y flwyddyn, gyda'r pwyslais ar arddangos celf gyfoes artistiaid o Gymru a thu hwnt. Cynhelir gweithdai a dosbarthiadau amrywiol i bobl o bob oedran trwy gydol y flwyddyn yn ogystal. Mae mynediad yn rhad ac am ddim. Mae'r gweithdai yn amrywiol a chynhelir sgyrsiau a digwyddiadau addysgiadol drwy'r flwyddyn.

Ar agor Llun-Sadwrn, 10yb-5yh

Theatr Hafren
Mae Theatr Hafren yn gartref i gynyrchiadau amrywiol drwy'r flwyddyn, gan arddangos cynyrchiadau dramâu clasurol, cynyrchiadau plant a phobol ifanc, yn ogystal â nosweithiau comedi cyson yng nghwmni enwogion megis Tony Robinson, seren y gyfres Blackadder. Cynigir amrediad eang o gerddoriaeth, o berfformiadau clasurol, i jas, i berfformiadau cerddorol ethnig a modern. Mae'r theatr yn llwyfannu cynyrchiadau opera cyson, yn ogystal â bod yn gartref i gymdeithas ddrama amatur Y Drenewydd ac yn lwyfan i'w holl dalentau.

Amgueddfa Robert Owen
Robert Owen Mae'r amgueddfa yn arddangos stori ryfeddol Robert Owen, bachgen lleol a anwyd yn 1771, a ddatblygodd i fod yn ddiwydiannwr llwyddiannus ac yn un o feddylwyr sosialaidd cynharaf y Deyrnas Unedig. Ceir yma gasgliad eang a diddorol o eitemau personol Robert Owen, ac mae'r Curadur yn barod i dywys grwpiau ac i roi sgwrs fer am Robert Owen.

Ar Agor Llun-Gwener, 9.30yb-12 a 2-3.30, ac ar agor Ddydd Sadwrn rhwng 9.30yb a 11.30yb.

Tŷ Gregynog
Mae Plasty Gregynog, sy'n sefyll mewn oddeutu 750 erw o dir tirluniedig a pharcdir coediog, rhyw 5 milltir o'r Drenewydd. Rhwng 1924 a 1963 sefydlodd y perchnogion, Gwendoline a Margaret Davies, un o weisg argraffu preifat gorau Ewrop yma a ffurfiwyd casgliad eang o ddarluniau ac o waith celf. Pan fuont farw, fe etifeddwyd yr ystad gan Brifysgol Cymru ac fe wneir ddefnydd helaeth o'r safle gan y Coleg heddiw fel canolfan gynadleddfa breswyl. Mae'r Plasty ar gael i'w logi i'r cyhoedd, a gellir cynnal cynadleddau a phriodasau yno. Ym mis Mehefin, dyma gartref Gŵyl Gerddorol Gregynog.

Cymdeithas Ddrama Amatur y Drenewydd
Sefydlwyd y gymdeithas lwyddiannus hon yn 1934 pan y cyfarfodd grŵp o berfformwyr amatur yn y dref. Llwyfannwyd eu cynhyrchiad cyntaf yn Mawrth 1935 yn y Victoria Hall, bellach yn gartref i Ladywell House. Tyfodd y gymdeithas o nerth i nerth ar hyd y degawdau, gan ddathlu ei phen-blwydd jiwbilî aur yn 1984. Heddiw llwyfannir pedwar cynhyrchiad yn flynyddol rhwng mis Medi a mis Mai. Mae'r gymdeithas yn croesawu aelodau newydd sydd â diddordeb actio, cyfarwyddo, coluro neu adeiladu set. Cyfarfu'r grŵp bob nos Lun a nos Iau am 7.30yh yn Theatr Powys.

Amgueddfa W H Smith
Ail agorodd Siop W H Smith y dref yn 1975 yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol. Fe adnewyddwyd y siop i ymdebygu i'r bensaernïaeth a ffurf wreiddiol yn 1927, pan agorodd y siop ei drysau am y tro cyntaf yn Y Drenewydd. Bellach mae yna amgueddfa uwchlaw'r siop yn cloriannu hanes a datblygiad busnes lwyddiannus Henry Walton Smith a Anna Smith a gychwynnodd nôl yn 1792. Ceir yma arteffactau amrywiol o ddiddordeb i bob oedran.

Mae'r amgueddfa ar agor yn ystod oriau agor y siop, Dydd Llun-Sadwrn, 9.00yb-5.30yh, ag eithrio Gŵyl y Banc. Mynediad am ddim

Amgueddfa Tecstilau'r Drenewydd
Mae Amgueddfa Tecstilau'r Drenewydd yn hyrwyddo treftadaeth ac hanes diwydiant Gwlân y Drenewydd. O fewn tafliad carreg i Amgueddfa y Diwydiannwr Gwlân llwyddiannus (Robert Owen) mae'r Amgueddfa Decstilau yn gartref i hen felinau y Dref a chasgliad o beiriannau ac arteffactau hanesyddol hynod, ac yn ddolen gyswllt bwysig rhwng cynnal a dathlu treftadaeth diwydiannau cotwm a brethyn cartref Y Drenewydd ac addysgu'r cyhoedd cyfoes amdano.

Achlysuron Blynyddol

Mis Mehefin
Carnifal y Drenewydd
01686 625580

Gŵyl Gregynog- Gŵyl Gerddoriaeth Mwyaf Canolbarth Cymru
01686 430468

Mis Gorffennaf
Gŵyl Fwyd y Drenewydd
01686 623538

Mis Awst
Sioe Moduron o Fri
01686 622566

Gŵyl Severnfest
01686 625580

Mis Medi
Gŵyl Opera Canolbarth Cymru
01686 625007

Dydd Gwener olaf Mis Tachwedd
Cynnau'r Goleuadau Nadolig a Thaith Siôn Corn Ddydd Sadwrn
01686 625544

Dydd Sul Cyntaf Mis Rhagfyr
Ras Siôn Corn. Bellach yn enwog fel un o'r rasys mwyaf o'i math â dros 2,000 Siôn Corn yn rhedeg drwy strydoedd Y Drenewydd i godi arian ar gyfer elusennau amrywiol.

Os wyddoch am unrhyw atyniadau neu ddigwyddiadau eraill o ddiddordeb yn yr ardal e-bostiwch canolbarth@bbc.co.uk.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Trefi
Radio Cymru
Lluniau
Digwyddiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy