BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Trallwng a'r Ardal
Alwyn RichardsDylanwad Sir Drefaldwyn
Alwyn Richards o Sir Drefaldwyn yn sôn am ei fagwraeth a dylanwad yr ardal ar ei fywyd.
Beth yw dy gysylltiad â Sir Drefaldwyn?
Mae fy nheulu wedi bod yn yr ardal ers o leiaf deg cenhedlaeth. Rwyf yn byw ar fferm o'r enw Penyrallt, rhwng Pont Llogel a Llyn Llanwddyn. Mi symudais i yno ym 1995 ar ôl cael fy ngeni yn Lerpwl ond mae fy rhieni ill dau yn Gymry Cymraeg, a chafodd fy nhad ei eni yn Sir Drefaldwyn.

Sut blentyndod gest ti yno?
Roeddwn i'n wyth oed pan symudais i fyw yn Sir Drefaldwyn, mae'n ardal fendigedig i dyfu fyny ynddi. Mi oeddwn i'n gweithio llawer ar y fferm gyda'n nhad am flynyddoedd. Roedd ysgol gynradd Llanfihangel yn le da i gael addysg Gymraeg o safon uchel iawn ac mi oeddwn i'n rhugl yn yr iaith erbyn i mi fynd i'r Ysgol Uwchradd.

Beth wyt ti'n ei fwynhau am Sir Drefaldwyn?
Mae hi'n ardal dawel a heddychlon a golygfeydd anhygoel. Mae'r acen a'r dafodiaith yn hyfryd ac yn unigryw iawn. Rydw i'n mwynhau'r ardal oherwydd ei bod mor wledig, yn enwedig ar ôl byw o dan ddylanwad dinas fawr ym mlynyddoedd cynnar fy mywyd.

Faint o Gymraeg sydd i'w chlywed yn yr ardal bellach?
Mae'r iaith mewn stad fregus i ddweud y gwir, yn rhannol oherwydd mewnfudo pobl o Loegr sydd yn anfodlon i yrru eu plant i ysgolion Cymraeg yr ardal. Mae'r niferoedd o blant yn fy ysgol gynradd eisoes wedi haneru ers i mi adael ddeng mlynedd yn ôl. Er hynny, mae yna gymdeithas Gymraeg gref yn dal i fodoli yn Llwydiarth, Llanfihangel, Llanwddyn a Llanfyllin ac yn ardaloedd Dyffryn Banw a Dyffryn Tanat. Mae'r Gymraeg yn gryf iawn dros y ffin yng Nhgroesoswallt (Oswestry) ac i raddau dwi'n ystyried y dref fel un Gymreig.

Pa fath o ddyfodol wyt ti'n broffwydo i'r iaith yn dy fro? Beth gellid ei wneud i'w chryfhau?
Dwi'n pryderu'n fawr ynghylch yr ysgolion bach sydd yn dechrau cau oherwydd diffyg cefnogaeth. Dwi hefyd yn poeni'n arw nad yw'r acen hyfryd yn mynd i gael ei mabwysiadu gan genhedlaethau'r dyfodol. Mae Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn gwneud ei gorau i gadw'r iaith yn fyw ond m'ond tua un o bob deg disgybl sy'n siarad Cymraeg. Wedi dweud hynny, mae'r amrywiaeth o gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg yn rywbeth gobeithiol iawn.

Oherwydd ein lleoliad mor agos at y ffin, mae llawer o ddylanwadau Seisnig yn dechrau gwthio'r Gymraeg yn ddyfnach i fewn i Gymru. Credaf fod angen annog mwy o bobl yr ardal i ddysgu'r iaith yn lle ei hanwybyddu a bod ofn ei dysgu. Mae angen pwysleisio'r buddiannau o fod yn ddwyieithog yng Nghymru.

Rwyt ti'n aelod o fand, sut brofiad yw cyfansoddi cerddoriaeth i ti ac a oes gen ti unrhyw ddylanwadau lleol?
Dylanwad fy nhad sbardunodd fy niddordeb mewn cerddoriaeth, roedd ef yn aelod o fand Aelwyd Penllys pan oedd yn iau ac mae'n dal i chware'r gitâr acwstig heddiw. Heblaw am hynny, yn anffodus ni fedraf ddweud fy mod wedi cael fy nylanwadu gan unrhyw fandiau Cymraeg lleol eraill gan nad oes llawer ohonyn nhw i'w cael. Ond rwyf wedi cael fy nylanwadu gan fandiau megis Brigyn, Vanta a Sarah Louise ers i mi ddod i'r Brifysgol yn Aberystwyth.

Yr ydwyf wedi bod yn cyfansoddi ac yn perfformio ers pan oeddwn yn bymtheg mlwydd oed ond dyma'r tro cyntaf i mi chware mewn grŵp Cymraeg. Y profiad gorau yw gwybod fod ein caneuon yn dod â boddhad i bobl eraill ac mae hyn yn well hwb nag unrhyw swm o arian. Mae fy nheulu'n gerddorol iawn ac mi yden ni wedi cynnal cyngherddau bychan yn ein hardal leol ers stalwm lle roedd y pump ohonom yn chwarae offerynnau ac yn canu. Ond ar y funud, mae'r brwdfrydedd ynglŷn â'r band newydd yn antur mawr ac yn un cyffrous.

Dyweda wrthon ni am y sîn gerddoriaeth Gymraeg yn Sir Drefaldwyn.
Mae bandiau mawr yn chwarae'n flynyddol yng 'Ngŵyl Tân Tanat, Pen y Bont Fawr e.e. Brigyn a Frizbee. Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i'n gyfarwydd iawn gyda bandiau Cymraeg cyn dod i'r Brifysgol heblaw am wrando ar Radio Cymru ers pan oeddwn yn blentyn.

Uchafbwynt o ran byw yn sir Drefaldwyn?
Y golygfeydd anhygoel a'r ffaith bod llyn mwyaf Cymru wedi'i lleoli yn ei chanol.

Beth sy'n gwneud y Sir yn "hynod" neu'n "unigryw"?
Y bobl a'u hacenion unigryw yn siarad am "cieth" yn lle "cath" sef yr acen "ae" faen. Nid yw'r sir yn ne na gogledd Cymru chwaith ond rydyn ni yng nghanol y wlad, yn ein byd bach ein hunain.

Y peth mwyaf nodweddiadol am fy acen yw'r duedd i ynganu'r "æ" fain, mewn geiriau sy'n cynnwys y llythrennau 'e', 'ae', 'au' ac 'ai'. e.e. Tad, Llaeth a Naw. Y math o ymadroddion yw 'ie nafo de', 'Deuw Ie'?, a 'Cocsio' (sef cymeryd arno, neu ffugio). Dwi'n llai tebygol na Gogs eraill i ynganu'r 'u-gron' a dwi'n gorffen geiriau efo 'e' yn hytrach nag 'a'. Ceir unigrwydd i dafodiaith Sir Drefaldwyn.


  • Cliciwch yma i ychwnaegu eich tafodiaith unigryw chi i'n rhestr o eiriau ar-lein.

    Wyt ti'n gweld dy hunan yn dychwelyd i'r sir i fyw ac i weithio ar ôl gadael y Brifysgol? A oes digon o gyfleoedd yn y sir i bobl ifanc?
    Dwi'n gobeithio dychwelyd i'r sir i fod yn unai athro neu gyfieithydd ond mae hyn yn dibynnu ar y nifer o swyddi digonol fydd ar gael, oherwydd natur amaethyddol y sir. Mae llawer yn cael ei wneud ar hyn o bryd i annog y Cymry i aros adref sydd yn bwysig iawn er mwyn cynnal cymdeithasau Cymreig. Mae'r fantais o fod yn ddwyieithog yn y gweithle yn rhoi peth annogaeth i mi a gobaith i'r dyfodol.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Trefi
    Digwyddiadau
    Radio Cymru
    Papurau Bro


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy