Rhai enwau lleoedd diddorol a'u hystyron. Cyhoeddir llyfr Cymraeg am enwau lleoedd Maldwyn gan Richard Morgan wedi ei addasu gan Dai Hawkins.Aberriw - Aber Afon Rhiw
Yr Ardd-lin - Fe'i gwelir fel Arddleen ar arwyddion ffyrdd. Arferid tyfu llin yn nyffryn Hafren. Felly, 'Yr ardd lle'r oedd llin yn cael ei dyfu'.
Afon Banw - Ystyr 'banw' ydi mochyn neu porchell mae Richard Morgan yn awgrymu yn ei lyfr i'r afon gael ei henwi oherwydd y ffordd y mae'n twrio.
Blowty - cyfuniad o 'blawd' a 'ty'. 'Ty nithio'.
Bryn amlwg - un hawdd i bawb. Bryn uchel rhwng Carno a Llanbryn-mair.
Bwlchycibau - Bwlch a cibau yn lluosog cib yn golygu llestr, caweg, cwpan neu luosog cibyn yn golygu plisgyn croen. "Gallai gyfeirio at y tirwedd lleol gan ddynodi 'pantiau' neu, efallai, ansawdd coediog y bwlch."
Caersws - Caer a'r enw personol Swyswen neu Swsan. Bu caer Rufeinig yma.
Clatter - Tollborth yn cloncian neu efallai ddŵr garw calet-ddŵr.
Dolannog - ardal o ddolydd bychain o bosib.
Y Drenewydd - o Newtown a ddisodlodd Llanfair-yng-Nghedewain.
Ffordyn - o'r geiriau Saesneg 'Ford' a 'tun'.
Garthmyl - cyfuniad o 'garth' yn golygu cefn a'r gair Saesneg 'mill' o bosib.
Machynlleth - 'ma' yn golygu maes neu wastadedd a'r enw personol Cynllaith.
Manafon - 'ma' eto a'r enw personol Anafon.
Meifod - cyfuniad o 'mei' yn golygu 'canol' a 'bod', sef 'cartref'. Un esboniad arall yw ei fod yn cynnwys enw'r mis, 'Mai', ac mai cartref y byddai pobl yn symud iddo ym Mai ydoedd yn nhraddodiad yr hafod
Mochnant - ystyr 'moch' yn y cyd-destun hwn ydi 'buan' neu 'gyflym'. Nant yn ffrydio'n gryf felly.
Pennant Melangell - pennant yn golygu pen uchaf cwm a'r enw personol, Melangell, y santes a achubodd ysgyfarnog.
Pen-y-bont-fawr - lleoliad pen pont fawr dros Afon Tanad.
Pontrobert - ar ôl rhyw Robert ap Oliver a gododd bont gerrig yn 1669 yn lle un a gafodd ei golchi i ffwrdd mewn storm.
Powys - o'r Lladin Pagus yn golygu 'gwerin' neu 'bobl y wlad'.
Trallwng - Pwll budr, man corsiog. O hyn y cafwyd y pool Saesneg yr ychwanegwyd y gair Welsh ato rhag cymysgu â Poole yn Dorset. Ymddangosai fel Le Pool ar un adeg.
Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar gyfer Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meifod 2003