| Dyma sylwadau rhai o blant Ysgol Dyffryn Banw. Dylan Jones o Llangadfan
Rydw i yn hoffi'r ardal yma oherwydd mae'n lle tawel a mae digon o pethau i'w gwneud yma. Fy hoff beth i wneud yma yn Llangadfan ydy gweithio ar y ffarm yn helpu Dad. Annia Roberts o Meifod
Mae digon o le i chwarae a mwynhau yn Meifod. Mae yn dawel ac mae llawer o anifeiliaid i'w gweld yn coedwig Meifod. Mae llawer o pethau natur. Owain o Dolanog
Rydw i yn hoffi yr ardal oherwydd mae llawer o lefydd i fynd am dro yma yn Ddolanog. Fy hoff beth i'w neud yw ffidio ffesants Mr Jackson gyda Dad y cipar. Ffion Angharad Roberts o Llangadfan
Weithia rydw i yn hoffi dod i cyngherddau yn Canolfan Dyffryn Banw. Rydw i yn mwynhau ar y caeau efo fy meic a digon i'w wneud. Rydw i yn hoffi gweld yr anifeiliaid natur a mwynhau y tawelwch. Eilish Hannah Lanl o Llanerfyl
Rydw i yn hoffi Llanerfyl oherwydd mae pobman yn dawel iawn. Fy hoff beth yw'r grwp drama yr wyf yn mynd iddo yn Llanerfyl. Mae llawer o goed ac anifeiliaid yn Llanerfyl. Aaron Morris o Llangadfan
Rydw i yn hoffi bod yr ardal mor dawel a dwi'n hoffi cerddoriaeth a mabolgampau a chwaraeon fel pêl droed a tenis. Dwi'n hoffi bod yr ardal mor fach ac yn llawn o coed a glaswellt. Kirsty Jones o Foel
Fy hoff beth am yr ardal yma yw y grŵp drama yr wyf yn mynychu yn Llanerfyl. Mae'n ardal fach a dawel. Mae yna swydda post yna. Mae yma llawer o goed. Ifan Huws Y Foel
Rydw i'n hoffi mynd i wylio pêl-droed ac yn hoff iawn o ffarmio efo Dad a gwneud gwaith coed adref yn certws a nofio yn yr afon-nant yn yr haf. Sara Rudd Dyffryn Banw.
Rwyf yn hoffi'r Urdd achos rydych yn gweld pobol dydech chi ddim yn gweld yn aml. Rwy'n hoffi cystadlu. Mae hi'n ardal dawel. Mae'r ysgol yn gwneud pob math o cystadleuthau efo ni. Rhydian Jones
Rydw i'n hoffi mynd i guro (saethu ffesants) efo dad a'i ffrindiau bob dydd Sadwrn am y flwyddyn a cael bocs bwyd da gen Mam ac mae'n dawel a den ni'n cael parti nadolig bob blwyddyn. Eric Smith Llangadfan Rydw i yn hoffi mynd i gwylio pêl droed efo dad yn Dyffryn Banw. Mae'n ardal dawel ac rwyf wrth fy modd yn pysgota yn yr haf.
 |