BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Trallwng a'r Ardal
MeifodAdnabod Ardal
Rhestr amrywiol o ffeithiau diddorol am ardal Meifod, Y Trallwng, Y Drenewydd, Llanfyllin a'r ardal ehangach.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meifod 2003 ar Faes Mathrafal. Mathrafal oedd yr enw ar brif lys hen dywysogion Powys hyd at y drydedd ganrif ar ddeg. Dyma Aberffraw neu Ddinefwr Powys. Daeth yn enw wedyn ar un o dair talaith farddol Cymru.

Argae Llyn Clywedog a godwyd yn y chwedegau yw'r uchaf ym Mhrydain. Yn chwe milltir a hanner o hyd mae'n 237 troedfedd o uchder. Gerllaw, mae olion gwaith plwm Bryntail.

Y Trallwng yw prif dref Trefaldwyn.

Y Pool oedd yr enw Saesneg ar Y Trallwng yn wreiddiol ond ychwanegwyd y Welsh o flaen yr enw yn 1835 am fod pobl yn cymysgu rhwng y dref a thref glan môr Poole yn Dorset.

Atyniad mwyaf mawreddog ardal y Trallwng ydi Castell Powys. Cynlluniwyd gerddi terasog Castell Powys gan bensaer o Gymru, William Winde.

Lladdwyd bron i hanner trigolion y Trallwng gan y Pla Mawr.

Mae Rheilffordd Fach Y Trallwng a Llanfair yn rhedeg am wyth milltir rhwng Y Trallwng a Llanfair Caereinion.

Bu trigolion Llanfyllin yn manteisio ar rinweddau iachusol ffynnon Sant Myllin yn y dref ers y chweched ganrif.

Y mae Pistyll Rhaeadr y tu allan i Lanrhaeadr ym Mochnant yn un o saith rhyfeddod Cymru. Dyma raeadr uchaf Cymru, 150 troedfedd.

Boddwyd pentref o 400 o bobl yn yr 1880au er mwyn creu Llyn Efyrnwy gyda dim ond £5 o iawndal yn cael i dalu i bobl a gollodd eu cartrefi. Mae'r hanes yn cael ei adrodd mewn canolfan ymwelwyr.

Er gwaethaf ei henw mae'r Drenewydd yn dyddio yn ôl i'r ddegfed ganrif. Tyfodd y dre o amgylch castell bychan gan gynyddu mewn maint yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn sgil datblygiad y diwydiant nyddu.

Y Drenewydd yw cartref cwmni siopau papurau W. H. Smith. Mae yno arddangosfa yn olrhain hanes y cwmni o 1792.

Yn Y Drenewydd lle mae amgueddfa goffa iddo y ganwyd y sosialydd Robert Owen yn 1771. Yn yr amgueddfa mae llyfrau nodiadau o'i eiddo a lluniau o'i fentrau cydweithredol arloesol yn yr Unol Daleithiau ac yn New Lanark.

Ar un adeg yr oedd Y Drenewydd yn cael ei hadnabod fel 'Leeds Cymru' oherwydd prysurdeb y diwydiant gwehyddu yno gyda 1,200 o wehyddion wrth eu gwaith yn nhai y dref.

Yn y Drenewydd y cyfarfu'r Siartwyr Cymreig am y tro cyntaf - 1838.

Gadawodd Robert Owen ei dref enedigol, Y Drenewydd, pan oedd yn ddeg oed ac ym Manceinion daeth yn fasnachwr defnyddiau ac yn rheolwr melin gotwm pan yn 23 oed.

Bum milltir o'r Drenewydd mae Plas Gregynog, cartref Gwasg Gregynog sy'n enwog am ei hargraffwaith gain. Y plasty hwn oedd un o'r adeiladau concrid cyntaf ym Mhrydain ond wedi ei wneud i ymddangos fel hen adeilad Elisabethaidd.

Bu Edward Elgar, Adrian Boult a Benjamin Britten yn aros yng Ngregynog.

Ym Machynlleth y cyfarfu'r senedd Gymreig gyntaf wedi ei galw gan Owain Glyndwr.

Y mae Llwybr Glyndwr yn ymdroelli am 123 milltir drwy Drefaldwyn a Maesyfed o Drefyclo i Fachynlleth.

Cafodd Penfforddlas ei enw Saesneg Staylittle oherwydd fod y gof lleol mor sydyn yn pedoli nad oedd angen i neb oedi'n hir yno.

Yn Llanrhaeadr ym Mochnant y cyfieithodd yr Esgob William Morgan y Beibl i'r Gymraeg.

Mewn cerdd "Yn Eglwys Selatyn" dywedodd Bryan Martin Davies: Yma,/ar y gororau hyn,/y mae/afradloni/a barddoni/cystal ffordd â'r un/i fardd/dreulio egwyl/o boen byw. Goronwy Owen a dreuliodd gyfnod yn yr ardal oedd ar ei feddwl wrth gyfansoddi'r geiriau.

Bu gan Lanfyllin enw drwg am yfed ac yr oedd yn ddywediad cyffredin fod hen gwrw yn llenwi Llanfyllin gyda gweddwon ifainc.

Dywedir mai o gyffiniau Llanfair Caereinion y gellir gweld orau hyfrydwch ddyffryn Meifod.

Yr oedd caer Rufeinig yn Llanfair Caereinion.

Ysgrifenwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar gyfer Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Meifod ar BBC Cymru'r Byd yn 2003

Oes gennych chi unrhyw ffeithiau diddorol i'w hychwanegu at y rhestr hon? E-bostiwch canolbarth@bbc.co.uk


Cyfrannwch

Eric Smith Llangadfan
Rydw i yn hoffi mynd i gwylio pel droed efo dad yn Dyffryn Banw. Mae'n ardal dawel ac rwyf wrth fy modd yn pysgota yn yr haf.

Rhydian Jones Dolanog
Rydw in hoffi mynd i guro (saethu ffesants)efo Dad ai ffrindiau or teulu Jacsons bob dydd Sadwrn am y flwyddyn a cael bocs bwyd da gen Mam ac mae'n dawel a den nin cael parti nadolig bob blwyddyn.

Sara Rudd Dyffryn Banw.
Rwyf yn hoffi'r Urdd achos rydych yn gweld pobol dydech chi ddim yn gweld yn amal.Rwy'n hoffi cystadlu. Mae hi'n ardal dawel. Mae'r ysgol yn gwneud pob math o cystadleithau efo ni.

Ifan Huws Y Foel
Rydw i'n hoffi mynd i gwylio pel-droed ac yn hoff iawn o ffarmio efo Dad a gwneud gwaith coed adref yn certws a nofio yn yr afon-nant yn yr haf.

Kirsty Jones o Foel
Fy hoff beth am y ardal yma yw y grwp drama yr wyf yn mynychu yn Llanerfyl. Mae'n ardal fach ac dawel. Mae yna swydda post yna.Mae efo llawer o coed yna.

Aaron Morris o Llangadfan
Rydw i yn eu hoffi bod yr ardal mor dawel ac dwi'n eu hoffi caerddoriaeth a mabolgampau a chwareuon fel pel droed a tennis. Dwin eu hoffi bod yr ardal mor fach ac yn llawn o coed a glaswellt.

Eilish Hannah Lanl o Llanerfyl
Rydw i hoffi Llanerfyl oherwydd mae pobman yn dawel iawn. Fy hoff beth yw'r grwp drama yr wyf yn mynd iddo yn Llanerfyl. Mae llawer o goed ac anifeiliaid yn Llanerfyl.

Ffion Angharad Roberts o Llangadfan
Weithia rydw i yn hoffi dod i gyngherddau yn Canolfan Dyffryn Banw. Rydw i yn mwynhau ar y caeau efo fy meic. Rydw i yn hoffi gweld anifeiliaid natur a mwynhau y tawelwch.

Owain o Dolanog
Rydw i yn hoffi yr ardal oherwydd mae llawer o lefydd i fynd am dro yma yn Ddolanog. Fy hoff beth yw neud yw ffidio ffesants Mr Jackson gyda Dad y cipar.

Annia Roberts o Meifod
Mae digon o le i chwarae a mwynhau yn Meifod. Mae yn dawel ac mae llawer o anifeiliaid i gweld yn coedwig Meifod.

Dylan Jones o Llangadfan
Rydw i yn hoffi'r ardal yma oherwydd mae'n lle dawel a mae digon o pethau yw gwneud yma. Fy hoff beth i wneud yma yn Llangadfan ydy gweithio ar y ffarm yn helpu Dad.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Trefi
Digwyddiadau
Radio Cymru
Papurau Bro


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy