BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tregaron
Murlun Cors Caron
Gweler murlun Cors Caron yng Nganolfan y Barcud. Daeth y murlun o prosiect arlunio cymunedol gyda thair ysgol leol dan arweiniad Pod Clare, arlunydd cymunedol o Aberarth.

Rhoddwyd y wobodaeth gan Ganolfan y Barcud, Tregaron

"Fe gafodd y murlun yma'i ddylunio a'i greu gan dros 80 o blant rhwng 8 a 11 oed o Ysgolion Cynradd Pontrhydfendigaid, Swyddffynnon a Thregaron. Roedd y disgyblion yn gweithio gyda Pod Clare, yr artist cymunedol. Mar'n darlunio'u hymateb nhw i Gors Caron, y fawnog ger Tregaron, sy'n ffinio â'r tair ysgol. Mae'r murlun wedi'i wneud yn gyfan gwbl o ddeunydd gafodd ei gasglu ar y fawnog.

Fe ddechreuodd y broses o greu'r celfwaith yma gyda Paul Culyer o Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn rhoi sgwrs i blant y tair ysgol. Fe ddisgrifiodd y cynefin, y ffordd y dechreuodd, a beth yw ei arwyddocâd, ac fe ddangosodd sleidiau o'r bywyd gwyllt amrywiol ac unigryw sydd yno. Yna fe roddodd Pod Clare, yr artist blaenllaw, gyflwyniad i'r syniad o Gelfyddyd y Tir. Fe ddangosodd nifer o luniau gan artistiaid fel Andy Goldsworthy a Tim Pugh. Wedyn, fe wnaethon nhw drafod y project roedd y plant ar fin ei gychwyn.

Y cam nesaf oedd mynd â'r plant i gyd i weld Cors Caron ei hun. Fe gawson nhw gerdded ar rhan o'r hen reilffordd, ac yna ar draws y gors ei hun ar y rhodfa bren sydd newydd gael ei chreu. Fe aethon nhw cyn belled â'r bont droed ar draws yr Afon Teifi, ymysg y brwyn. Fel hyn, roedden nhw'n cael cyfle i weld y golygfeydd, i glywed y sŵn ac i synhwyro'r pethau sy'n perthyn i'r cynefin yma. Roedd cryfder ymateb y plant i'w deimlo yn y cerddi gafodd eu hysgrifennu ar ôl dychwelyd i'r ysgol. Mae'r cerddi'n dangos fod y gors wedi gwneud argraff ar y plant.

Hefyd, fe gafodd y plant helpu yn y broses o gasglu deunyddiau o'r gors i greu'u celfwaith ar gyfer Canolfan y Barcud. Dyma'r deunyddiau: brwyn yr afon, gweiriau'r gors, rhedyn, brigau'r helyg, grug, darnau o ganghennau, criafol, egroes, mês, dail y dderwen, cen, mawn y gors, tywod afon, gwlân dafad, plu, rhisgl coed bedw.

Ar ôl mynd yn ôl i'r ysgol, fe ysgrifenodd y plant am eu profiadau yn y gors, a'u hargraffiadau amdani. Wedyn gwnaeth y plant weithio mewn grwpiau yn defnyddio y deunydd a gasglwyd a'r geiriau oedden nhw wedi cyfansoddi i creu cyfres o ddelweddau a aeth ymlaen i ffurfio cynllun y murlun."

Gwybodaeth wedi ei rhoi gan Ganolfan y Barcud, Tregaron.

  • Murlun Cors Caron mewn lluniau.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Beth ydych chi'n feddwl o murlun Tregaron? Llenwch y blychod isod:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Papurau Bro
    Trefi
    Digwyddiadau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy