 |  |  | Llyfr Hanes Tregaron Olrhain hanes Tregaron mewn lluniau a wneir mewn llyfr a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Hanes Tregaron a'r fro ym mis Tachwedd 2006. |  |  |
 | Oriel o hen luniau o Dregaron o'r llyfr Bu aelodau'r Gymdeithas yn casglu hen luniau i'w rhoi mewn llyfr dwyieithog arbennig sy'n cyflwyno cefndir y dref, yn bennaf i bobl sydd wedi symud i'r ardal heb lawer o wybodaeth am ei hanes. Mae John Lewis yn aelod o'r Gymdeithas ac yn un o bedwar o olygyddion y llyfr a lansiwyd ddydd Sadwrn, Tachwedd 18, 2006 yng Nghanolfan y Barcud, Tregaron, lle ddaeth dros 200 o bobol ynghyd. "Canrif mewn llun yw'r llyfr, o 1880 1980. Y syniad oedd gyda ni oedd i gofnodi'r newidiadau sydd wedi bod mewn canrif yn Nhregaron. Os ydych chi o dan, dwedwch 40 oed, fyddech chi ddim yn cofio lot o bethau am y pentref. Er enghraifft y rheilffordd, byddech chi ddim yn gwybod bod na reilffordd byth wedi bod yn mynd trwy Dregaron. "Roedd na hanes cryf o ferlota yn Nhregaron hefyd, ond mae lot o bobol wedi anghofio am hyn. Rydyn ni am ddangos y busnesau oedd yma, y ffeiriau oedd yn digwydd a'r adeiladau sydd wedi mynd i golli. "Roedden ni am roi blas i bobl sydd wedi symud i'r ardal, yr hanes trwy gyfrwng llun." Lluniau Oriel o hen luniau o Dregaron o'r llyfr
"Mae'r llyfr yn llawn lluniau, a rydyn ni wedi sgrifennu captions dwyieithog yn dweud yr hanes. Dyw hwn ddim yn lyfr academaidd o gwbwl, ond llyfr allwch chi ei godi i gael golwg cloi arno a wedyn ei roi lawr. "Roedden ni yn awyddus i roi cyfle i'r bobl hynny oedd wedi cofnodi Tregaron mewn lluniau, a rydyn ni wedi cael benthyg lluniau yn hael iawn gan bobl y pentref. Rydyn ni wedi cael lluniau o gasgliad y diweddar Ron Jones y Medical Hall o Lyfrgell y Sir, Ceredigion a oedd yn ffotograffydd keen iawn ac wedi cofnodi llawer iawn o Dregaron. "Roedd na ffatri bolish arfer bod yn Nhregaron. Llosgwyd y lle i'r llawr a chollodd un o'r gweithwyr ei fywyd. Tŷ sydd yna nawr, ac os ydych chi o dan rhyw oed arbennig yna fyddech chi byth yn gwybod bod na ffatri di bod yna. "Yn yr un modd, mae gyda ni lun o gae yn Nhregaron pan gynhaliwyd sioe yna, ond tai sydd yna nawr." Cyhoeddwyd y llyfr ar y cyd rhwng Cymdeithas Hanes Tregaron a'r Cylch a Chwmni Cyhoeddi Landmark Cyf. Cymdeithas Hanes Tregaron a'r Cylch
Sefydlwyd y Gymdeithas tua chwe mlynedd yn ôl o dan arweiniad y Parchedig Roger Ellis Humphreys. Mae'r Gymdeithas yn cwrdd yn ystod y gaeaf ac yn gwahodd pobl ddiddorol fel siaradwyr gwadd. Adolygiad o'r llyfr
 |  |  |  |
 |  | Cyfrannwch i'r dudalen hon! |  | |
|
|