"Wrth sôn am fywyd yng nghefn gwlad Cymru byddai'r rheini sydd heb brofi'r bywyd hwn yn cymryd ei fod yn un undonog, 'boring'. Rwyf i yn un sydd yn falch o fy milltir sgwâr a'r hyn sydd i'w gynnig yma. Mae'r gymdeithas yn un clos, a'n cymdogion yn rhai caredig, cyfeillgar. "Roedd Pontrhydfendigaid yn bendant yn stereoteip o bentref saff, traddodiadol Cymreig i dyfu fyny ynddi, ac roeddwn yn bendant yn teimlo'n hollol gyfforddus yn fy amgylchfyd. "Roedd yna ddigon o bethe' i neud yn y pentref, boed yn noson o adloniant yn yr adran a'r aelwyd neu'n gêm bêl droed, criced neu 'chwilio a cwato'. Cymerodd yr ysgol rhan helaeth yn fy magwraeth hefyd wrth gwrs, a rhoddodd ysgol gynradd y Bont y cyfle i mi cymryd rhan mewn amryw o ddigwyddiadau er enghraifft jambori a chwaraeon potes yr Urdd, ac Eisteddfod y fro. "Gan ein bod yn byw yn y wlad, roedden hefyd yn rhydd i chwarae ger yr afon, dringo coed a mynd am dro lan mynydd pen-bannau neu lan i Abaty Ystrad Fflur. Roedd y Clwb i bobl ieuanc hefyd yn agor nos Wener, a byddai hyn yn rhoi'r cyfle i mi a fy ffrindiau i gwrdd a chwarae gêm owk, cael sgwrs a chymdeithasu. "Roedd Eisteddfod Teulu James yn ffordd o ddenu pobl i'n hardal ac yn fodd o ehangu ein dealltwriaeth ni o'n traddodiadau fel Cymry." Gan : Lisa Jones
 |