Ychydig o achosion llys yn ymwneud â'r Bont a gafodd eu cofnodi yn y 'Welsh Gazette' yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf, ond dyw hyn ddim yn syndod. Mae gen i gof clir o'r Bont yn y cyfnod rhwng y tridegau a dechrau'r chwedegau - roedd yn bentref cymharol heddychlon a'r bobol, ar y cyfan, yn ufudd i ddeddfau'r wlad.
Doedd dim angen cloi'r drysau, ac yn sicr, roedd yn le diogel i blant. Roedd yna blismon ond roedd e'n arestio fawr o neb. Efallai mai dylanwad y capeli oedd fwyaf gyfrifol am hyn, ac o bosib eu hagwedd at alcohol a meddwi. Yn sicr, ar y pryd, roedd capeli Carmel a Rhydfendigaid yn llawer mwy poblogaidd na'r ddwy dafarn - y Black a'r Red.
Rhaid peidio gorliwio pethau hefyd - nid pentref o saint oedd y Bont o bell ffordd. Roedd yna fân dor-cyfraith. Yn ddiamau, roedd pobol y pentre' yn goddef rhyw gymaint o droseddi cudd, ond pur anaml roedd yna unrhyw achlysur difrifol. Yn sicr, roedd yna ryw gyfundrefn anweledig yn cadw'r 'pechaduriaid mwyaf' o dan reolaeth. Rhaid cyfaddef mod i'n rhyw gredu, fel plentyn, mai felly oedd pethau wedi bod am ganrifoedd. Syndod felly oedd darllen yn ddiweddarach (yn y 'Cambrian Register', 1796) y geiriau:
. . . a village of no great repute, wherein dwell not many honest labourers - but robust athletic miners - of no religion, though I hope, reformation is began among them, as there is now of late a chapel built . . . The village is called Rhydfendigaid, i.e. the Blessed Ford . . . It is to be hoped now, the inhabitants will not long contradict the name of the place, by their manner of living.
Os mai felly oedd pethau ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, mynd o ddrwg i waeth wnaeth pethau ar ôl hynny. Yn ôl hanes, roedd yna 'gang' o ladron a llofruddion yn byw yn y Bont ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn 1822, daeth y pentref i amlygrwydd dros Gymru gyfan am resymau digon truenus.
Ym Marnllys Aberteifi, fe ddedfrydwyd Thomas Price, 30 oed, a John Evans, deunaw oed, i'w crogi am lofruddio Thomas Evans (alias Twm y Gof). Roedd hanes y mwrdwr - a ddigwyddodd ar ben Bryncrach - ym mhob papur ar y pryd; roedd manylion 'Seren Gomer' yn eitha' lliwgar:
Yr oedd amgylchiadau y llofruddiaeth hwn yn dra erchyll . . . y modd mwyaf barbaraidd . . . troediodd John Evans (yr hwn a wisgai esgidiau blaenfeinion a phedolau haearn danddynt) Thomas Evans yn ei dalcen, nes dryllio asgwrn ei siol, ac wedi hyny trwy gymorthwy ei gydlofrudd, a'i bwriodd dros glawdd. Baledi'n dweud yr hanes
I'r rhai hynny na allent ddarllen, roedd yna faledi'n cael eu canu mewn ffeiriau a marchnadoedd ar draws y wlad. Roedd y rhain yn rhoi portread llawer mwy iasol a chyffrous gan gynnwys disgrifiadau o'r llarpio cyhoeddus yn dilyn y crogi. Fel hyn y canodd John James o Llandysul:
Eu gweled wrth y gorden oedd rybudd mawr i'n gwlad,
Eu gwel'd hwy yno'n ddarnau yn gorwedd yn eu gwa'd,
Doedd hyn ddim mwy na chysgod at wel'd yr enaid noeth,
Yn myn'd i'r farn i ro'i cyfrif o flaen y Barnwr doeth.
'Llyfrgell Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor.'
Mae'n debyg fod Thomas Price wedi cyfaddef cyn ei grogi fod Twm y Gof yn un o ladron y Bont a bod y ddau ohonynt wedi bod yn cyduno mewn llawer o ddrygau, a'u bod wedi mynd a bywyd un trafaeliwr, ac un Iddew. Bu yna gweryl rhyngddynt, ac fe wnaeth Twm fwgwth bradychu ei gyd-droseddwyr, ac am hynny fe'i lladdwyd.
Gellir gweld copïau o'r baledi ar www.hanesybont.co.uk/canalarus.htm
Erthygl gan: Terry Williams o Bontrhydfendigaid
Oes gennych chi unrhyw atgofion o'r cyfnod hwn? Cyfrannwch i'r dudalen hon trwy lenwi'r ffurflen isod.