Mewn ymateb i hynny, daeth cynrychiolaeth gref i Lyfrgell Neuadd Pantyfedwen i gwrdd â Dewi Jones, trefnydd y gymdeithas, a phenderfynwyd yn unfrydol i dderbyn y gwahoddiad. Cefndir
Ddeunaw mlynedd yn ôl y cynhaliwyd yr Ŵyl yn y Bont ddiwethaf, ac roedd yn hyfryd gweld nifer fawr o'r gweithwyr bryd hynny, yn ogystal â rhai newydd yn barod i ysgwyddo'r baich y tro yma. Roedd yr Ŵyl i fod i gael ei chynnal yn y pafiliwn rhyw chwe mlynedd yn ôl, ond difrodwyd yr adeilad gan dân, a dim adeilad arall addas ar gael yn y Bont. Gyda'r pafiliwn ar ei newydd wedd, roedd yna edrych ymlaen yn fawr am Ŵyl Gerdd Dant lewyrchus mewn pafiliwn moethus. Dewis y pwyllgor gwaith Y dasg gyntaf oedd i ddewis swyddogion y Pwyllgor Gwaith, ac fe enwebwyd Neli Jones, ysgrifennydd 1989 yn gadeirydd y pwyllgor y tro yma, gyda Dafydd Jones (y mascot' Meurig y Mynach' yn 1989) yn is-gadeirydd, Tegwen Jones yn drysorydd, a Joan Evans a Menna Jones yn gyd-ysgrifenyddion. Aed ati wedyn i ddewis swyddogion ar gyfer yr is-bwyllgorau, ac mae'r Pwyllgor Gwaith a'r is-bwyllgorau wedi bod yn ddiwyd iawn yn ystod y misoedd diwethaf, yn rhoi trefn ar bethau. Prif waith y Pwyllgor Cyllid oedd i godi arian gan fod angen dros hanner can mil i gynnal yr Ŵyl. Mae nifer o weithgareddau wedi eu cynnal trwy'r gwahanol bwyllgorau, ac hefyd gan bentrefi eraill y dalgylch, sef dalgylch y ddau bapur bro Y Barcud a Y Ddolen, gweithgareddau sydd wedi bod yn hwyl i'w trefnu a'r cymdeithasu wedi bod yn werth chweil, gan gynnwys noson 'Sion a Sian' yng nghwmni Dai Jones Llanilar a Jenny Ogwen yng ngwesty'r marine yn Aberystwyth. Gwerthwyd nwyddau hefyd, yn fowlenni ffrwythau, powlenni cawl, llun gan yr artist Ogwyn Davies, a rhaw arbennig, sef 'Rhaw Aberaeron'. Mwy am Ŵyl Cerdd Dant Ystrad Fflur a'r fro, 2007
 |