"Cefais fy magu ym Mhontrhydygroes, rhyw bum milltir i'r gogledd o Bontrhydfendigaid. Mynychais Ysgol Gynradd Ysbyty Ystwyth ac yna ymlaen i Ysgol Uwchradd Tregaron. "Un o'r pethau gorau am dyfu i fyny yn yr ardal yma oedd y traddodiad clodwiw o ganu a llefaru a'r diwylliant Cymreig oedd yn perthyn i'r pentrefi a'r pobl. Roedd yr Eisteddfodau yma yn lwyfan cynnar i mi, a heb y profiadau cynnar yma ni fyddai gen i'r hyder i fynd ar lwyfan i ganu. "Roedd yna deimlad diogel iawn yn y pentrefi yma gyda phawb yn adnabod ei gilydd a doedd dim ofn i grwydro'r ardal oherwydd mi oedd 'na wyneb cyfarwydd ym mhob ffenestr. Roedd yr awyr iach yn un o'r pethau pwysica' am dyfu fyny yng nghefn gwlad Cymru, nid oeddwn yn sylweddoli hynny ar y pryd ond wrth edrych yn ôl roeddwn yn ffodus iawn. "Efallai mai un o'r pethau negyddol am fyw allan yn y wlad yw'r diffyg digwyddiadau a chlybiau ac yn y blaen sy'n y pentrefi bychain, ond mi roeddwn i'n ffodus o fyw ar fferm gyda'm dau frawd felly roedden ni un ai allan ar y ffferm neu'n chwarae pêl-droed gyda'm brodyr. "Bum yn aelod o dîm pêl-droed Bont tra'n yr ysgol gynradd a mwynheais y cyfle i gymysgu gyda phlant o'r ysgolion cyfagos. Ar ôl symud i Ysgol Uwchradd Tregaron symudais i chwarae i dîm pêl-droed Tregaron gan fod fy ffrindiau newydd yn chwarae i'r tîm. Bum hefyd yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Trisant lle rwy'n dal yn aelod heddiw, ac rwyf wedi cael amryw o brofiadau a chyfleon gwych tra'n aelod. "Rwy'n meddwl fod cefn gwlad yn le gwych i gael eich magu ac mae yna ddigon i wneud yno os ydych am fod yn rhan o bethau!" Gan : Dewi Siôn Evans
 |