BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Machynlleth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Machynlleth
Siwan HywelCynllun Gweithredu Iaith Machynlleth
Mae'r cynllun iaith wedi bod yn gweithredu ym Machynlleth ers Gorffennaf 2004. Dyma gyflwyniad i'r gwaith gan Swyddog Cynllun Gweithredu Iaith Machynlleth, Siwan Hywel.

"Dw i wedi bod yn gweithio ar y cynllun cyffrous hwn sydd wedi cychwyn ym Machynlleth ers Gorffennaf 2004, ers dros flwyddyn, yn dilyn ymadawiad y swyddog blaenorol.

Nod y Cynllun hwn yw hybu'r Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardal o arwyddocâd ieithyddol arbennig. Diffinnir Machynlleth fel ardal lle mae tystiolaeth o shifft ieithyddol amlwg, a lle mae tystiolaeth fod llai o ddefnydd o'r Gymraeg gan bobl ifanc.

Mae Cynlluniau Gweithredu Iaith yn wahanol i'r Mentrau Iaith gan eu bod yn targedu ardaloedd llai na'r Mentrau tra'n effeithio ar waith sydd y tu hwnt i ddylanwad y Mentrau, e.e. polisïau a gwaith cyrff statudol fel ELWa, Awdurdod Datblygu Cymru a chynghorau sir, ynghyd â chydlynu'n agos â phrif bartneriaid y Bwrdd.

Mae'r cynllun dan ofal Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a rôl y Bwrdd yn y maes hwn yw gweithredu fel catalydd - i helpu sefydlu partneriaeth ddeinamig i adnabod blaenoriaethau lleol ac wedyn parhau â gweithio ar y cyd â'r Fenter Iaith leol, a sefydliadau eraill, fel hwylusydd i waith y bartneriaeth.

Un o brif amcanion fy swydd yw hwyluso gweithgareddau a digwyddiadau sy'n cael eu trefnu er mwyn hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg yn yr ardal. Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer y bobl sy'n medru'r Gymraeg ym Machynlleth wedi gostwng. Bwriad Cynllun Gweithredu Iaith Machynlleth yw cynyddu'r cyfleoedd sydd yna i bobl o bob oed ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Byddwn yn gweithio yn benodol ymysg plant, pobl ifanc, dysgwyr a rhieni.

Mae'r Gymraeg yn rhan annatod ohona i, rwy'n hynod falch i fod yn gweithio yma ym Mro Ddyfi, yn enwedig i weithio dros rywbeth mor bwysig â hyrwyddo'r iaith Gymraeg ar lefel leol."

Erthygl gan Siwan Hywel

Prosiectau arbrofol yw'r Cynlluniau Gweithredu Iaith er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg mewn ardaloedd lle gwelwyd dirywiad sylweddol yn y nifer sy'n siarad yr iaith. Mae swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn hwyluso'r gwaith drwy ddod â phawb at ei gilydd - yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol - sydd â diddordeb mewn cynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y gymuned.

Yn ogystal â Machynlleth, mae cynlluniau hefyd wedi'u sefydlu yn Nghorwen, Rhuthun, Pwllheli, Amlwch, Bangor, Llanrwst, Rhydaman, Aberteifi, Abergwaun a Chasnewydd. Os hoffech gysylltu â Siwan, mae ei swyddfa wedi eo leoli yn Swyddfa Rhanbarthol Powys ym Machynlleth (drws nesaf i Nat West), neu codwch y ffôn (01654 703944) neu gyrru e-bost (siwan.hywel@bwrdd-yr-iaith.org.uk).


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Beth ydych chi'n feddwl o'r cynllun gweithredu iaith yn Machynlleth? Ydych chi wedi cynrhyd rhan yn y cynllun? Llenwch y bocsys isod i ddweud eich dweud:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lluniau
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Trefi


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy