Eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd fe drosglwyddodd Mary Price o Fachynlleth awenau'r Llywydd i Esyllt Jones o Gasllwchwr a rŵan mae Mary yn edrych ymlaen at gael ymlacio er hynny mae'n cyfaddef y bydd hiraeth ganddi am y swydd a'r gwmnïaeth.
"Dwi'n aelod o Ferched y Wawr ers dechrau'r 70au yng nghangen Bro Ddyfi yma ym Machynlleth Rwyf wedi bod yn Llywydd ac ysgrifennydd cangen nifer o weithiau a fi fydd y Llywydd ym mis Medi! Mi fûm yn Llywydd Rhanbarth Maldwyn yn 2003, yn ystod ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Meifod a chefais fy enwebu yn is-lywydd Cenedlaethol yn 2004," dywedodd Mary.
Yn 2006 urddwyd Mary yn Llywydd Merched y Wawr a hynny am gyfnod o ddwy flynedd. Dyma'r tro cyntaf i Lywydd Cenedlaethol Merched y Wawr gael ei hurddo ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe.
"Merched Rhanbarth y De Orllewin oedd yn gyfrifol am y cyflwyniad a'r cyn llywydd Glenys Thomas o Gaerfyrddin oedd yn arwain y seremoni anrhydeddus," meddai Mary.
"Yn y prynhawn cafwyd derbyniad i longyfarch y llywydd newydd ac adloniant gan aelodau cangen Bro Ddyfi a dysgwyr y bum yn diwtor arnynt yn yr ardal."
Yn flynyddol yn ystod seremoni Dysgwr y Flwyddyn mae Merched y Wawr yn cyflwyno gwobr i'r pedwar person sydd wedi cyrraedd y brig yn y gystadleuaeth.
Dywedodd Mary iddi fod yn anrhydedd cael rhannu bwrdd â'r beirniaid, Aled Davies, Siân Lloyd a Sarah Edwards ynghyd â chyflwynydd y noson Nia Parry yng Nghastell Caerdydd noson gwobrwyo 'Dysgwr y Flwyddyn' eleni
"Llongyfarchiadau i Maddison Tsua. Fel Mudiad rydym yn falch iawn o groesawu dysgwyr i'n plith a byddwn yn awgrymu i'n haelodau wrth drefnu eu rhaglen flynyddol i gynnwys un noson yn arbennig ar gyfer y dysgwyr," ychwanegodd.
Yn ystod llywyddiaeth Mary gafwyd cyfnod prysur iawn yn hanes y mudiad sef cyfnod dathlu'r Deugain. Dechreuwyd ar y dathlu yn ystod y penwythnos preswyl yn Llanbedr Pont Steffan.
"Cynhaliwyd garddwest yn y gerddi Botaneg ar y dydd Sadwrn a derbyniodd pob aelod 40 o fylbiau Cennin Pedr i'w plannu ar hyd a lled Cymru. Yn ogystal â phlannu rhai o amgylch bedd ein Llywydd Anrhydeddus cyntaf, Gwyneth Evans , ym Mryngwran Môn,"meddai.
"Roeddwn yn ymwybodol y byddai'n ddwy flynedd bwysig iawn, ac roedd hi'n anrhydedd cael bod yn Llywydd ar gyfnod mor arbennig yn hanes y mudiad. Pinacl dathlu'r Rhuddem oedd Sadwrn y Dathlu yn y Bala. Cymerwyd rhan ym Mhasiant Rhialtwch y Rhuddem gan aelodau o bob rhanbarth ac ymgasglodd cannoedd o ferched yn y Bala ar ddiwrnod chwilboeth o haf. I gloi'r digwyddiadau'r diwrnod cynhaliwyd Cymanfa Ganu yng Nghapel Tegid y Bala," ychwanegodd.
"Bum yn ffodus i fedru derbyn pob gwahoddiad a ddaeth i mi i fod yn bresennol mewn nifer eang o'r dathliadau a chiniawau ar draws y wlad, yn Genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn y canghennau."
"Un o uchafbwyntiau'r swydd i mi oedd cyfarfod yr aelodau yn eu canghennau eu hunain, yng nghanol y dathliadau. Pob cangen a'i straeon a'i syniadau gwefreiddiol eu hunain. Roedd yn gyfle unigryw i siarad a chlywed hanesion y gwahanol unigolion yn eu canghennau a chael trosolwg o ddigwyddiadau ar draws Cymru gyfan," meddai.
"Gobeithiaf i mi allu bod, yn rhinwedd fy swydd, yn berson y bobl, ac yn sgil hynny cael cyfle i sgwrsio efo'r aelodau. Gwerthfawrogaf yn fawr iawn yr ymroddiad a'r teyrngarwch sydd yn cael ei roi yn wirfoddol i'r mudiad gan unigolion, mae'n anhygoel," ychwanegodd.
"Hefyd dros y ddwy flynedd mae'n braf gweld cylchgrawn y Wawr wedi datblygu i fod yn gylchgrawn llawn lliw a bod erbyn heddiw gyfle i unrhyw un danysgrifio i gylchgrawn sydd yn ddiddorol dros ben," meddai.
Wrth i'w thymor fel Llywydd ddod i ben dywedodd y bydd ei chysylltiad agos gyda'r mudiad yn parhau.
"Er fy mod ychydig yn drist wrth i'r cyfnod ddirwyn i ben, gallaf eich sicrhau y bydda i yn dal yn deyrngar ac yn ffyddlon i'r Mudiad fel aelod achos rydw i'n credu mai dyma un o sefydliadau pwysicaf Cymru."
Wedi cyfarfod nifer fawr o aelodau'r mudiad yn rhinwedd ei swydd, mae Mary hefyd wedi cyfarfod nifer fawr o sêr Cymru yn ogystal â phobl fawr y Byd, fel ye esboniodd.
"Ychydig flynyddoedd yn ôl fe fu'r Mudiad yn gyfrifol am gasglu arian i brosiect yr 'Homemakers', sef codi arian ar gyfer merched yn Lesotho, De Affrica. Aeth y mudiad ati i gasglu peiriannau gwnïo a'u hanfon i Lesotho, roedd hyn yn gyfle iddynt fedru datblygu crefft a medru gwneud dillad iddynt eu hunain a'u teuluoedd. Mae gan y Mudiad gysylltiad agos iawn â'r wlad .Bu inni gyfarfod â'r Tywysog Seeiso Bereng Seeiso o Lesotho yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe; hefyd mewn derbyniad Dolen Cymru bu imi gyfarfod â Thywysog Harri sydd erbyn hyn yn noddwr brenhinol cyntaf Dolen Cymru."
"Cefais hefyd gyfle i ymweld â Senedd Ewrop, ym Mrwsel. Trefnwyd y daith gan Bwyllgor Cangen y Garth, Y De Ddwyrain. Yno fe'n synnwyd a'n siomwyd ni gan y diffyg ymlyniad tuag at faterion Cymraeg a Chymreig. Fe ysgrifennodd Merched y Wawr yn genedlaethol at y pedwar aelod seneddol Ewropeaidd gan ofyn yn daer iddynt roi llais inni'r Cymry o fewn trafodaethau Senedd Ewrop ac i bledio achos Cymru mewn dadleuon a fydd yn cael dylanwad mawr ar ein ffordd ni o fyw. Cafwyd ymateb eu bod yn pwyso am gael cynnig wedi i'w roi gerbron i sicrhau defnydd rhannol o'r iaith Gymraeg yn Senedd Ewrop, Cam i'r cyfeiriad cywir gobeithio,"
Gyda balchder mae Mary yn cyfaddef mai un o'r rhinweddau pwysicaf y Mudiad yw'r ffaith ei fod yn fudiad cwbl Gymraeg a Chymreig a bod y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud yn wirfoddol.
"Mae'r gwaith sydd wedi ei wneud dros y ddeugain mlynedd ddiwethaf yn wirfoddol yn anhygoel. Mae Merched y Wawr yn un o'r mudiadau mwyaf gweithgar, ac mae wir yn glod bod yr holl waith a'r ymgyrchu yn cael ei wneud heb gŵyn ac mor ddidrafferth," ychwanegodd.
"Mae calendr Merched y Wawr yn brysur iawn ac un o binaclau'r flwyddyn yw'r Ŵyl Haf sydd yn cael ei gynnal yn ystod mis Mai, yma bydd y cyfarfod blynyddol y cael ei gynnal, a hefyd bydd cyfle i fwynhau pnawn o adloniant yng nghwmni'r aelodau a hefyd cyfle i gystadlu mewn chwaraeon o bob math."
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r fam i bedwar o blant yn cyfaddef i'w dyddiadur fod yn brysur iawn. Ond dywedodd iddi gael cymorth a chefnogaeth ei gŵr wrth deithio'r cannoedd ar gannoedd o filltiroedd ar hyd a lled Cymru.
"Roedd 'na bwyllgorau a theithiau di-ri wedi eu trefnu ar gyfer y ddwy flynedd a dwi wedi mwynhau'r cydweithio, y cyfeillgarwch a'r gefnogaeth gref sydd yn rhan annatod o'r anrhydedd yma. Mawr hyderaf i mi lwyddo i roi cyhoeddusrwydd teilwng i'r Mudiad trwy gymryd rhan mewn cyfweliadau ar y radio ac ar y teledu Roeddwn hefyd yn bresennol pan lansiwyd gwefan y Clybiau Gwawr yng Nghaerfyrddin ac eleni yn Llambed am y tro cyntaf byddwn yn we ddarlledu yn fyw rai o'n gweithgareddau.
Dwi wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd a derbyniadau ac wedi mwynhau pob agwedd o'r fraint," ychwanegodd.
Gweithgaredd bwysig i'r aelodau yw cymryd rhan yng nghystadlaethau y Sioe Fawr a'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Yn y Ffair Aeaf roedd dros 200 o addurniadau Nadolig i'w beirniadu !
"Braf yw gallu ,Llongyfarch Rhanbarth Glyn Maelor ar ennill gwobr Radi Thomas ac i Gaynor Bryan Jones, Cangen Bryn Eglwys a Llandegla am ennill y gystadleuaeth gosod blodau. A braint i minnau fel llywydd oedd cael cyflwyno'r tlws hardd iddynt. "
Wrth feddwl am yr wythnosau nesaf mae Mary yn cyfaddef y bydd hi'n andros o dawel o'i gymharu â'r ddwy flynedd ddiwethaf.
"Mi fydd hi'n dawel dros yr wythnosau nesaf ond rydym ar fin cychwyn i Lundain ddiwedd y mis at y mab a'i wraig sydd ar fin cael eu plentyn cyntaf ac mae hynny yn gynnwrf yn ei hun.
"Rwyf wedi bod wrthi'n gweu ar gyfer y baban bach ond dwi ddim yn credu y byddaf yn ymroi ati i weu yn rheolaidd yn y dyfodol gan nad wyf yn berson sy'n hoffi bod yn llonydd yn hir iawn!," meddai gan chwerthin.
"Dwi'n mwynhau pob math o bethau megis, teithio, carafanio, garddio a chymdeithasu ac mae'n siŵr y bydd yma fwy o amser i hamddena o hyn ymlaen.
Mae Mary yn gweld y mudiad yn parhau yn gryf i'r dyfodol ac yn dymuno hir oes i fudiad sydd mor agos at ei chalon. Mae cefnogaeth y swyddfa yn Aberystwyth, y Cyfarwyddwr Tegwen ac wrth gwrs yr holl swyddogion datblygu yn asgwrn cefn i'r Mudiad.
Dwi'n credu bod creu Clybiau Gwawr fel rhan o'r mudiad hefyd yn sicrhau dyfodol cryf i Ferched y Wawr ac mae'n braf eu gweld yn tyfu ac yn parhau i ddatblygu ac yn fyw yn y ganrif hon. "Rhaid cofio bob amser bod unrhyw beth nad yw'n tyfu a datblygu yn marw
"Dwi'n gobeithio y bydd y mudiad yn parhau i ddatblygu yn fudiad i ferched o bob oedran, pa le bynnag y byddont yn byw, boed mewn dinas, yn y dref neu yng nghefn gwlad Cymru yn y dyfodol," ychwanegodd.
Erthygl gan Lowri Jones