"Gan fod Bro Ddyfi yn ardal wledig yng nghanolbarth Cymru, mae'r clwb ffermwyr ifanc lleol yn chwarae rôl flaenllaw ym mywydau'r bobl ifanc o gefndiroedd amaethyddol. Mae'r clwb ymysg y clybiau gyda'r mwyaf o aelodau yng Nghymru, gyda nifer anhygoel o thua 80 o bobl ifanc Bro Ddyfi yn ymuno yn flynyddol. O safbwynt sirol, Bro Ddyfi sydd â'r nifer mwyaf o aelodau, a rheini i gyd yn siaradwyr Cymraeg, sy'n cystadlu'n frwd yn yr iaith Gymraeg. Mae clwb ffermwyr ifanc Bro Ddyfi a'u haelodau yn adnabyddus iawn yng Nghymru am eu llwyddiannau mewn cystadlaethau sirol a chenedlaethol. Mae'r clwb yn cyfarfod yn wythnosol yng nghanolfan gymunedol Glantwymyn, i gynnal amrywiaeth eang o weithgareddau diddorol, a rheini'n amrywio o noson gymdeithasol yn y ganolfan, i deithio i Lan-llyn i fowlio deg, neu lawr i Aberystwyth i wylio'r ffilmiau diweddaraf yn y sinêma. Mae llawer o'n hamser yn mynd tuag at ymarferion at eisteddfodau, cystadlaethau adloniant a llawer o gystadlaethau sirol eraill.
Mae C.Ff.I Bro Ddyfi yn fwyaf adnabyddus am eu llwyddiant yn eisteddfod Genedlaethol y ffermwyr ifanc yn flynyddol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Sir Drefaldwyn wedi dod yn fuddugol ar gystadleuaeth y Côr Cymysg bedair gwaith yn olynol, a chlwb Bro Ddyfi yn gyfrifol am dair o'r buddugoliaethau hynny. Mae doniau'r aelodau hefyd yn cynnwys llwyddiant mewn partion deulais, unawdau lleisiol ac offerynnol, a hefyd mewn cystadlaethau llenyddol. Bob blwyddyn, daw amrywiaeth o wobrau yn ôl i Fro Ddyfi, sy'n dangos y dalent sydd ymysg aelodau'r clwb.
Cystadleuaeth arall mae'r clwb yn gweithio'n galed ar ei gyfer yw'r gystadleuaeth adloniant gaiff ei gynnal bob blwyddyn. Mae'n amrywio o 'hanner awr o adloniant', i bantomeim, ac yn wir, yn y bedair flynedd ddiwethaf, mae C.Ff.I Bro Ddyfi wedi dod yn fuddugol ar y gystadleuaeth ddwywaith.
Yn sicr, mae Clwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi yn mynd o nerth i nerth, ac does ond gobeithio bydd y llwyddiant yn parhau ar lefel sirol, yn ogystal ag ar lefel Genedlaethol yn y dyfodol." Erthygl gan Manon Wyn Jones
 |