 |  | Diwrnod dathlu'r canmlwyddiant Tair oriel o luniau |  |  |
 |  12345678910 11 |  | Gan mlynedd union i'r diwrnod dathlodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei chanmlwyddiant, Mawrth 19, 2007, gydag agoriad arddangosfa arbennig, 'Yn y Lle Hwn', yn Oriel Gregynog o fewn y Llyfrgell.
Arweiniwyd gorymdaith i'r oriel i seiniau pibau Cymreig yn cael eu canu gan Ceri Rhys Matthews a chyda Gerald Powell o'r Llyfrgell yn cario baner y canmlwyddiant a dau arall yn cario siarter y Llyfrgell ac atgynhyrchiad o un o'i thrysorau pennaf, Llyfr Du Caerfyrddin.
Agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan Lywydd Bwrdd y Llyfrgell, y Dr Brinley Jones. |  |
|
|