Iwan Bryn Jones yn siarag gyda Hywel Gwynfryn
"Mae mwy na dim ond llyfrau yma," oedd neges Iwan Bryn Jones wrth gael ei holi gan Hywel Gwynfryn ar gyfer BBC Radio Cymru.
"Mae pob math o wrthrychau - mae'r Llyfrgell yn debycach i amgueddfa ac oriel ac archifdy yn ogystal," meddai.
Ac yn sefydliad gyda'r nod "o warchod creiriai'r gorffennol ar gyfer yfory."
Ymhlith ei ddyletswyddau ef y mae trin, adfer a diogelu, rhai o'r miloedd o luniau sy'n cael eu cadw yno.
Yn ddiweddar etifeddodd y Llyfrgell gasgliad o gant o luniau o stiwdio y diweddar Kyffin Williams yn ewyllys yr arlunydd.
Rhestr o'r holl glipiau sain
 |