BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llandysul
Plant lleiaf yn adeiladu archNoa
Portread o hen hanes Noa mewn drama gerdd fywiog gyda digon o ganu, dawnsio a llefaru ...
"... gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear" (Gen 9 :13)

Dyma oedd sail ein drama gerdd, a lwyfanwyd nos Wener y 31ain o Fehefin a phrynhawn dydd Sul yr 2il o Orffennaf yn Neuadd y Celfyddydau Llanbedr Pont Steffan, cyrchfan Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg eleni.

Stori Noa oedd gennym, hen, hen hanes sy'n gyfarwydd i ni gyd, ac fe geisiwyd darlunio'r stori mewn modd deniadol i'r glust a'r llygad, ac fe gawsom fendith rhyfeddol yn y paratoi a'r ymarferion di-ri, a chyfle i wneud ffrindiau newydd o bob oedran.

Dawnsio, llefaru, actio a chanu dyna fu rhan y plant i gyd o bob oedran o'r ieuengaf yn 4 oed i'r hynaf yn l9 mlwydd oed, a phlant oeddent o ysgolion Sul, Bethel, Parc y Rhos; Gwyddgrug; Rhydybont; Saron, Llangeler; a Tabernacl, Pencader dros ddeg a thrigain i gyd, a phob un fel ei gilydd wedi dysgu eu gwaith yn drylwyr a'u harwain yn ddeheuig gan ein cyfarwyddwraig Mrs Dulcie James, un a drosglwyddodd asbri, egni a hyfforddiant penigamp i bob un ohonom.

Ar ddiwedd y perfformiad gofynnwyd y cwestiwn gan John Roberts a oedd yn recordio ei raglen bore Sul "Beth oedd neges y stori i ti?" ateb Dafydd oedd "mae Duw wedi rhoi ail gynnig i ni", a braf oedd clywed bachgen ifanc yn ei arddegau yn tystio i hyn.

Awn ymlaen felly yn ffyddiog i'r yfory newydd a sain ein pasiant yn fyw yn y cof,
'Duw a wnaeth addewid, addewid i ni, tydi hi'n grêt, tydi hi'n dda .... '

Kevin Davies

Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael £30 am ysgrifennu - cliciwch yma.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Radio Cymru
Trefi
Lluniau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy