Rhian o Lambed
Cytuno'n gryf cariadons fach
Thu Oct 9 20:52:44 2008
Awenog o Enid
'Llanbedr', dim Llambedr! Llan - Pedr (Peter's Church). Prifysgol Cymru Llanbedr am byth!
Wed Jun 20 00:14:41 2007
Mared o Lanfair Clydogau
Llambed dwi'n ei ddefnyddio bob tro!
Tue Apr 17 11:44:42 2007
Carys Thomas, Llanllwni.
Ie, Llambed yw e, cytuno da ti fyna Lisa -Llanbed yn swnio'n rhy anghywir! Hyd yn oed ma' Llanbedr Pont Steffan yn swnio'n iawn, ond dyw Llanbed ddim yn!
Wed Mar 28 20:46:17 2007
Emrys Evans o Slough
ar ol meddwl, Llambed iw'r lle, dim Llanbed.
Wed Mar 7 15:25:25 2007
Emrys Evans o Slough
Llambed,es i'r ysgol,pan on i yn byw yn Llanllwni
Wed Mar 7 15:06:43 2007
Iainto Glan Tawe, Abertawe gynt
Mae’r ffurf 'Llambed' yn hollol gywir ar lafar gwlad, ac yn dangos teithi’r iaith Gymraeg a welir mewn geiriau eraill. 1) Colli’r “r” derfynnol ar ôl “-t”, “-d”: arad 2 “n” yn troi yn “m” o flaen “b”: enbyd > embyd.
Mae'r newid hwn i’w weld hefyd mewn ieithoedd eraill (er enghraifft, Ocsitaneg “en” = yn; “barca” = cwch, llong; “embarcar” = mynd ar fwrdd llong. Aeth yn air Ffrangeg “embarquer”, a wedyn yn air Saesneg - “to embark”).
Cofiwch fod “Llambed” arall hefyd, sef Llanbedr y Fro ym Mro Morgannwg (‘Peterstone-super-Ely’ yn yr iaith fain). Yn iaith y de-ddwyrain, "Llambad" oedd yr enw hyd yn ddiweddar iawn, nes i'r hen Gymry gefnu ar y "Wenhwyseg" frodorol (a’r “e” derfynnol yn mynd yn "a" yn y rhan honno o’r wlad, yn union fel yn iaith Gwynedd.)
Sun Feb 18 14:24:06 2007
Gwennan Davies o Lanwenog
Rwy'n cytuno gyda Cerdin yr enw gramadegol cywir yw Llanbed gan mai gwir ystyr 'Llan' yw 'Egwlys' yng nghyd destun Llanbedr Pont Steffan ac felly yn ysgrifennedig yn fy marn i dyna a ddylsai cael ei ddefnyddio er mae ar lafar Llambed sy'n cael ei ddefnyddio rhan amla.
Fri Feb 16 11:01:05 2007
Bethan Mair
Mae dweud Llambed yn haws na dweud Llanbed, ond pan fyddwch chi'n ysgrifennu'r talfyriad, Llanbed sy'n iawn bob tro, a does dim dadl. Dewch ymlaen, bapur bro Clonc, rhowch arweiniad i'ch darllenwyr!
Fri Feb 16 09:46:26 2007
Carys, Caerdydd
LlaMbed yw e, achos dyna beth yw enw un o fy ffrindiau gorau. S'neb yn galw Rhian Jonesarni, 'mond Rhian Llambed, neu jyst Llambed - hyd yn oed ei ffrindiau ysgol!
Fri Feb 16 08:31:07 2007
Cerdin, Llanbed
Ystyr 'llam' yw neidio ond gwir ystyr yng nghyswllt y dref hon yw yr eglwys sef y Llan a dyna Llanbed
Mon Jan 29 21:32:19 2007
Natalie Moore o Lambed
Sylwch taw "Natalie Moore o Lambed" ysgrifennais!! Ar lafar "Llambed" mae trigolion y fro'n defnyddio ond mae angen i ni gofio taw "Llanbed" y dylswn ddweud go iawn gan ei fod yn fyrhâd ar yr enw "Llanbedr Pont Steffan". Ond weden ni fod "Llambed" yn o.k!!
Mon Jan 29 18:41:40 2007
Elinor Griffiths Llambedr pont steffan
Rwyn alw yn Llambed :Px
Mon Jan 29 12:24:44 2007
Laura Thomas o Llanwnnen
Llambed rwy'n meddwl sy'n swno'n well oherwydd yna yw'r unig beth rwy'n defnyddio a rhai o fy ffrindiau. Helo i gyd o fy ffrindiau.
Mon Jan 29 12:18:47 2007
Siân Jenkins o Lanllwni
Llambed yw e!
Mon Jan 29 12:17:02 2007
Nerys Evans o Gwmann
llambed yw alw'r tref i fi. mae llambedr pont steffan yn enw rhy hir i gweud trwyr amser!!!!!LLAMBED!!:)
Mon Jan 29 10:35:10 2007
Lowri a Siwan o Llambed
LlaMbed!
Mon Jan 29 09:37:35 2007
Lisa Elin, Llambed
LLAMBED rydw i bob amser yn ei alw! Mae Llanbed yn swnio'n anghywir!!
Sun Jan 28 11:03:50 2007
Siwan Davies, Llanwenog
Llambed ma pawb fi'n nabod yn galw'r dref. Sain gwbod pam, ond falle am fod Llanbedr Pont Steffan yn ry hir, ac mae Llanbed wedi dod o'r enw hir, ac mae Llambed wedi dod o hynny! Llambed fi'n lico orau a fyddai wastad yn gweud!
Wed Jan 24 12:02:49 2007
Hayley Thomas o Llanwnnen
Ie fi'n cytuno da chi!!Llambed yw e!!
Wed Jan 24 11:54:36 2007
Alice James o Rhydcymerau
Llambed yw e i fi!
Wed Jan 24 11:54:08 2007
Bethan
Llambed ar lafar bob tro. Yn ysgrifenedig rhaid cofio mai talfyriad o 'Llanbedr Pont Steffan' ydyw. Rwy'n meddwl bod y ddau yn iawn!!
Tue Jan 16 14:51:01 2007
Mererid Devanney, Guildford
Wastad wedi bod, a fydd y dre wastad yn Llambed i mi!
Tue Jan 2 12:30:50 2007
Papur Bro CLONC
Defnyddiwn yr enw swyddogol "Llanbedr Pont Steffan", ond croesawn y ddau enw arall hefyd - "Llambed" a "Llanbed" yn ol dymuniad y cyfrannwyr unigol heb eu newid. Sylweddolwn fod gan unigolion deimladau cryf mai "Llambed" yw'r enw cyfarwydd yn lleol ar un llaw, a "Llanbed" yw'r talfyriad cywir ar y llaw arall.
Mon Dec 11 10:16:14 2006
Ann Langton, Oxford.
Llambed am byth!
Fri Dec 8 13:46:28 2006
Sioned Mair Evans
Rwy yn ei alw yn Llambed
Thu Dec 7 19:28:22 2006
Elin Mair Evans o Llanybydder
Rwy'n alw yn Llambed!
Thu Dec 7 19:25:28 2006
Ffion Evans o Gwmann
Er mai Llanbedr Pont Steffan yw gwir enw'r lle, Llambed i fi a fy ffrindiau yn galw e!!
Wed Dec 6 09:38:12 2006