BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanbedr Pont Steffan
Fflur WynLlais Llwyfan Llambed
Ers 1993 mae nifer o gantorion ifanc wedi gwneud eu marc ar y byd cerddorol a gellir dadlau bod llawer o'r diolch am hynny i ysgoloriaeth nodedig yn Llanbedr Pont Steffan.
  • Safon eithriadol yn Eisteddfod 2007
  • 'Na'r Steddfod ore 'to!

    Yn y flwyddyn 1993 cynigwyd ysgoloriaeth o £1,000 ynghyd â Rhuban Glas mewn cystadleuaeth newydd 'Llais Llwyfan Llambed' yn agored i gantorion ifanc dan 30 oed a'r gwobrau yn £1,000, £500, £300, £200 a £100.

    Mae'r gystadleuaeth a gynhelir yn Neuadd y Celfyddydau yn y brifysgol yn dal i fodoli ac yn parhau i ddenu cantorion ifanc o bob cwr o'r wlad sydd yn dechrau ar eu gyrfaoedd yn y byd canu. Mae'r arian yn gymorth mawr iddynt dalu am hyfforddiant.

    Enillydd cyntaf yr ysgoloriaeth oedd Aled Hall ac ymhlith y buddugwyr mae Fflur Wyn a Robin Lyn Evans. Hefyd yn 1993 dechreuwyd ar yr arferiad o gynnal Oedfaon Unedig gan fynd o amgylch eglwysi'r dref yn eu tro ac mae hynny'n parhau.

    Yn y flwyddyn 2000 cyflwynwyd cystadleuaeth newydd sef Tlws Ieuenctid am gyfansoddi darn o ryddiaith i rai dan 25 oed. Mae'r Babell Lên yn dal i ffynnu ac eleni mae yna leoliad newydd yn Eglwys Sant Tomos, tu draw i faes parcio'r cwmins.

    Mae'r Eisteddfod yn ddyledus iawn i'r busnesau a'r unigolion am eu cefnogaeth ariannol heb anghofio am nawdd hael cronfa Pantyfedwen, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Llanbedr Pont Steffan.

    Mae mwy o wybodaeth am yr Eisteddfod yn y gyfrol 'Llais Llwyfan Llanbed' gan Goronwy Evans, ysgrifennydd yr Ŵyl am 35 mlynedd. Mae'r gyfrol yn olrhain hanes yr Eisteddfod trwy gyfrwng geiriau a lluniau niferus iawn ac mae hefyd yn cynnwys cynnyrch llenyddol yr Ŵyl ar hyd y blynyddoedd.

    Felly dewch yn llu i Lanbedr Pont Steffan i ddathlu'r Deugain ac i fwynhau gwledd o ddiwylliant Cymraeg ar ei orau.

    Janet Evans

  • Safon eithriadol yn Eisteddfod 2007
  • 'Na'r Steddfod ore 'to!
  • Eisteddfod yn dathlu'r deugain


  • Trefi
    Radio Cymru
    Papurau Bro
    Bws BBC Cymru


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy