Daeth David Thomas Davies o Lambed ar fwrdd Bws BBC Cymru pan ymwelwyd â'r dref ar ddydd Gwener 16 Chwefror 2007. Cafwyd diwrnod prysur ar y bws, ond llwyddwyd i recordio Mr Davies yn rhannu ei atgofion am Sioe Llambed. Mae wedi bod yn aelod ffyddlon o'r sioe am dros drigain mlynedd ac yn 1987 derbyniodd yr anrhydedd o fod yn Lywydd Sioe y Canmlwyddiant. Cynhelir Sioe Llambed eleni ar ddydd Gwener, Awst 17, 2007. Cliciwch yma i weld casgliad o hen luniau gan Dai Williams o Lambed - gan gynnwys rhaglenni Sioe Llambed dros y blynyddoedd
Cliciwch yma i glywed David Thomas Davies yn hel atgofion am y blynyddoedd a fu.
Cliciwch yma i glywed David Thomas Davies yn rhannu ei atgofion am Sioe Llambed.
 |