C : Pryd a pham wnaethoch chi ymuno â'r heddlu?
A : Ymunais â'r heddlu yn Medi 1979. Dwi'n credu i mi wneud hynny achos fy mod am helpu pobl. Dwi hefyd yn mwynhau mynd o amgylch ysgolion i weld disgyblion a dysgu iddyn nhw am alcohol a sut i fihafio yn y gymuned.
C : Pwy nath eich ysprydoli i fod yn yr heddlu?
A : Sarjant Edwards, gwr oedd yn byw yn yr un pentref â mi, fe oedd fy ysbrydoliaeth. Roeddwn yn siarad gyda fe yn aml a holi fe ynglyn â beth oedd e'n ei wneud.
C : Ydych chi'n hoffi bod yn blysman?
A : Ydw gan fy mod i'n helpu pobl a dwi'n gwneud rhywbeth gwahanol bob dydd. Mae'n swydd dda iawn.
C : Pa offer sy'n rhaid i chi ei gario?
A : Rwy'n cario bathodyn identity, pastwn, cyffion llaw, a CS spray - beth chi'n wneud efo hwnnw yw ei anelu at wyneb yr unigolyn a wedyn bydde nhw ddim yn gallu gweld am gyfnod. Mae'r pastwn yn edrych yn fach ond mae'n dod mas ac yn hirach wrth ei daflu. Mae wedi cael ei wneud o fetel, mae'n drwm ond os oes rhywyn yn dod ataf gallaf eu pwno nhw ar eu braich neu eu coes. Mae hwn yn gallu torri braich rhywun.
C : Ydych chi byth wedi gorfod bwrw rhywun gyda'r baton?
A : Unwaith - dyna'i gyd.
C : Dros y blynyddoedd, faint o bobl ydych chi wedi ei arestio?
A : Mae'n debyg y byddai'n gannoedd.
C : Beth yw oedran y person mwyaf ifanc a hen yr ydych chi wedi ei arestio?
A : Dwi'n credu fod y plentyn ifancaf yn 13. Cafodd ei arestio am dorri ffenestri lawr ym mhentref Llanfarian. Daeth hen foi ataf efo ffon ac eisiau fy mhwno - roedd e'n 78 oed.
C : Beth yw'r peth mwyaf drwg yr ydych chi wedi arestio rhywun amdano?
A : Roeddwn i'n gweithio yn adran Child Pretection Unit pan oedd pobl yn camdrin plant - felly dyna'r peth mwyaf drwg.
C : Am ba droseddau ydych chi yn arestion pobl?
A : Yn Aberystwyth y broblem mwya ni'n cael yw pobl sy'n yfed gormod o alcohol a mae nhw'n gyrru ar ol yfed alcohol. Torseddau eraill yw ymladd, torri ffenestri, dringo ar ben ceir a phethau felly.
C : Byddwch chi yn arestio pobl am fod yn feddw?
A : Mae'n dibynnu; mae yna drosedd am fod yn feddw mewn lle cyhoeddus ond os ydyn nhw yn cerdded adre yn deidi yna mae hynny'n iawn, ond os ydyn nhw'n gwneud rhywbeth dwl yna bydde nhw'n cael eiu harestio.
C : Pryd mae pobl yn cael ei haresto fwyaf aml am feddwi?
A : Ar y penwythnos, nos Iau, nos Wener a nos Sadwrn. Mae Nadolig yn amser prysur gan fod pobl yfed a gyrru adeg y Nadolig. Mae pobl yn mynd mas i bartio ac yn y blaen ond nid yn unig yn y nos ond y bore wedyn achos mae nhw gyrru yn gynnar yn y bore a mae nhw dal wedi meddwi.
C : Os byddai rhywun rydych eisiau ei arestio yn troi yn ymosodol beth fydde chi'n ei wneud?
A : Byddai rhaid i mi eu arestio ond os bydde nhw yn ymosodol mae offer gyda ni i'n helpu. Un o'r rheiny yw'r pastwn - os byddai rhywun yn dod ataf byddai'n rhaid i mi eu pwnio gyda'r pastwn ar y fraich neu goes. Ni fyddwn i byth yn pwnio'r pen. Os bydde'n i'n pwnio rhywun ar y pen gyda'r pastwn mae'n debygol y byddai'r person hwnnw'n marw. Y peth gorau yw wneud mewn sefyllfa o'r fath yw cael cadair fel bod rywbeth rhwng chi a'r person arall.
C : Pa fath o brofiadau ydych chi wedi ei gael gyda'r heddlu?
A : Rwy' wedi gwneud llawer o bethau. Roeddwn i'n gweithio yn ystod streic y glowyr.
C : Beth ydych chi'n hoffi mwyaf am eich swydd?
A : Yr hyn rwy'n ei wneud nawr sef mynd o amgylch ysgolion, siarad â disgyblion am alcohol a chyffuriau ac ymddygiad gwrth gymdeithasol.