BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberystwyth
Perfformio'r pantomeim ar y promPanto ar y prom
Roedd cyfle i blant cynradd Cymru oedd yn rhan o daith gerdded yr Urdd yn Aberystwyth ym mis Mehefin i weld pantomeim arbennig iawn a berfformiwyd ar y prom ...
  • Cliciwch yma i weld lluniau o'r diwrnod.

    Ar ddydd Gwener, Mehefin 16eg 2006 fe gynhaliodd Urdd Gobaith Cymru ei thaith gerdded blynyddol. Yn mynychu'r daith hon 'roedd mil o blant o ysgolion cynradd ac uwchradd, ac roeddent wedi gwisgo lliwiau'r Urdd (sef coch, gwyn a gwyrdd).

    Y daith gerdded'Roedd y daith yn cychwyn yng nghlwb rygbi Aberystwyth. Fe gerddodd y plant o'r clwb rygbi, ar hyd y prom ac yn ôl eto. A'r tywydd mor braf mae'n rhaid fod y plant wedi llwyr ymlâdd, ond fe oleuodd eu hwynebau pan ymddangosodd Mr Urdd, sef Sian Price, ar y prom i'w cyfarch!

    Panto i'r plant
    Nid oeddwn i yn cymryd rhan yn y daith, ond yn hytrach yn darparu adloniant i'r plant cyn iddynt gychwyn tua thre. Pantomeim oedd yr adloniant hwnnw! Ar ôl ychydig ymarferion fe drosglwyddais i a pedwar arall (Gwen Simms-Williams, Sioned Thomas, Elin Huxtable a Tomi Turner) bantomeim Sinderella i'r plant yn y bandstand. 'Roedd gennym fand yn cynhyrchu'r seiniau angenrheidiol ar ochr y llwyfan, megis cerddoriaeth amheus wrth i'r ddwy chwaer hyll ddod i'r llwyfan a cherddoriaeth hudol wrth i'r dylwythen deg a'i chyfaill ddod i'r llwyfan. Wrth y piano 'roedd James Hancock-Evans ac wrth y gitâr drydanol 'roedd Tomos Dylan.

    Fe berfformion gynhyrchiad modern o stori Sinderella, a'r cynnwys yn addas ar gyfer yr achlysur. 'Roedd Sinderella (Sioned Thomas) yn drist iawn gan fod ei dwy chwaer hyll (Elin Huxtable a Carys Davies) wedi mynd â'i hesgidiau cerdded yn ddiarwybod iddi ac wedi'u cuddio fel ni allai fynd ar daith gerdded yr Urdd. Fe ymddangosodd y dylwythen deg (Gwen Simms-Williams) a'i chyfaill (Tomi Turner) a oedd yn byw ar y prom i'w helpu. Fe roddodd y dylwythen deg bâr o esgidiau cerdded i Sinderella, a oedd yn gan mil gwell na rhai Sal a Lw (y ddwy chwaer hyll) a chafodd arwain y daith gerdded. Fe gafodd y dylwythen deg a'r gynulleidfa fwynhad wrth weld Sal a Lw yn cael eu cosbi. Do, fe gafodd y ddwy chwaer fynd ar y daith - ond ar dair troed! Fe glymwyd eu traed gyda'i gilydd cyn iddynt gwympo'n glec ar y llwyfan!

    Erbyn chwarter wedi tri roeddem ni, fel yr actorion, yn chwysu'n stecs ac wedi'n llorio'n llwyr ar ôl perfformio tri pherfformiad i gynulleidfa gwahanol. Roeddem yn fwy na pharod i roi ein traed i fyny!

    Mwynheuodd y plant (a'r actorion!) yn fawr iawn. Fe dynnwyd y plant i mewn i sbort a miri'r pantomeim ar sawl achlysur ac 'roedd eu hymateb yn anhygoel.

    'Roedd sawl llwyddiant i'r panto. Yn fy marn i, llwyddiant mwya'r sioe oedd y gân fythgofiadwy â ganwyd ddwywaith yn ystod perfformiad gan yr actorion a'r gwylwyr. Cafodd y gân ei chanu i dôn "Amarillo" a chyfeiliant y band. Isod gwelir geiriau'r gân (a grewyd gan Carys Davies a Gwen Simms-Williams).

    Ar lan y môr
    A ninnau'n canu fel côr,
    Ni'n siŵr chi'n joio
    Os chi yn, wel clapiwch eich dwylo.
    Ma' pawb moen bod 'ma
    A-A-A-A
    'Da ni'n gwmni da,
    A-A-A-A
    Ma' Sal a Lw yn pwdu
    Ond dewch chi gyda ni.
    Ma' taith yr Urdd 'mlan 'da ni heddi'
    Dewch i gerdded 'da Anwen Eleri,
    Sbort a sbri wrth gerdded 'da ni
    Chi yw gobeth Cymru.

    Y daith gerdded'Roedd hi'n brynhawn fythgofiadwy ac rwy'n siŵr fydd y digwyddiad yn aros yng nghof y mwyafrif am gryn amser eto. Cefais hwyl ar y llwyfan ac roeddwn yn cael modd i fyw wrth actio Lw. 'Roedd hi ymron yn ddiwrnod perffaith ond 'roeddwn i'n pobi o dan y wisg ddychrynllyd a'r haenau o golur! Wedi dweud hynny, 'roedd yr hufen iâ â fwynheuodd yr actorion ar ddiwedd y diwrnod yn gwneud yn iawn am hynny!

    Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at y flwyddyn nesaf. Eira Wen, y Blodyn a'r Bwystfil - pwy a ŵyr?!!!

    Erthygl gan Carys Mair o Aberystwyth

  • Cliciwch yma i weld lluniau o'r diwrnod.

    Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael £30 am ysgrifennu - cliciwch yma.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Lluniau
    Trefi
    Digwyddiadau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy