Esbonia'r Swyddog Datblygu Chris Glover, fwy am eu Diwrnod Agored a gynhaliwyd ar 12 Mai 2007.
Lluniau o'r Diwrnod Agored "Mae Diwrnod Agored blynyddol Mentro Lluest ar 12 Mai rhwng 10am a 4pm yn rhoi cyfle i chi ymweld a gweld y gwaith a wnawn. Bydd llysiau organig a chynnyrch y blanhigfa ar werth, ynghyd â chyfle i gwrdd â staff a myfyrwyr a chael taith tywys o'r safle.
Os ydych o dan anfantais yn gorfforol neu gymdeithasol gallwn gynnig gwrs achrededig i chi yn rhad ac am ddim mewn garddwriaeth wedi ei leoli yn ein safle 3 erw organig ger cyffiniau Aberystwyth, gorllewin Cymru.
Rydym ar hyn o bryd yn cynnig 4 lefel o gyrsiau, o NPTC lefel 1 i NVQ lefel 2, ein hamcan yw datblygu sgiliau'r tir ar y cyd â sgiliau byw a gwella'ch cyfleoedd o gael cyflogaeth neu hyfforddiant pellach. Yn ystod y cwrs bydd ein staff profiadol yn darparu lefel uchel o gefnogaeth addysgol a chydweithio gyda chi er mwyn creu cynllun datblygu personol ar y cyd â'ch astudiaethau garddwriaethol.
Mae gan Mentro Lluest raglen Wirfoddol lawn sy'n cynnwys garddio ymarferol, cadwraeth a sgiliau'r tir, ceir hefyd y cyfle i ddatblygu prosiectau ymchwil ar y safle. Mae misoedd y gwanwyn a'r haf bob amser yn brysur yn Mentro Lluest gydag amrywiaeth o waith ar gael. Cysylltwch â ni os hoffech roi peth o'ch amser i helpu'r prosiect.
Mae gennym siop fechan ar y safle lle rydyn ni'n gwerthu llysiau organig a gynhyrchir gan ein myfyrwyr. Rydym hefyd yn gweithredu Cynllun Bocs o Lysiau Organig drwy'r tymor tyfu sydd wedi profi'n boblogaidd iawn gyda'r gymuned leol.
Mae adran planhigfa ein safle yn cynhyrchu arddangosfa syfrdanol o blanhigion, basgedi crog, blodau parhaol, llwyni, suddlonnau a phlanhigion cigysol. Pam na ddewch i gael golwg?"
Mentro Lluest
Llanbadarn Fawr,
Aberystwyth,
Ceredigion.
SY23 3AU
Am fanylion pellach Ffôn: 01970 612114
E-bost: enquiries@mentrolluest.org
Erthygl gan Chris Glover