BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberystwyth
Cerddorfa genericCyngerdd Nadolig Aberystwyth 2007
Carys Mair Davies yn edrych yn ôl ar berfformiad cyngerdd arbennig yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth dros y Nadolig.

'Yn ôl yr arfer, fe ddarparodd Cerddorfa Ceredigion, Côr SATB Ceredigion a Chôr Bechgyn Ceredigion wledd i'w gwrandawyr ar ffurf cyngerdd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar y deunawfed o Ragfyr 2007.

Eleni roeddwn i yn cymryd rhan yn y gerddorfa ar y fiola ac yn y côr SATB. Er mwyn medru perfformio ar y deunawfed o Ragfyr 'roedd hi'n angenrheidiol i'r ymarferion ddechrau ar ddiwedd mis Tachwedd.

Dechreuodd yr ymarferion gogyfer â pherfformiad y côr SATB ar y degfed ar hugain o Dachwedd. Cawsom ymarfer ar y degfed ar hugain o Dachwedd ac ar yr ail o Ragfyr Cynhaliwyd yr ymarferion yn Ysgol Uwchradd Aberaeron.

Rhaglen y côr SATB oedd trefniant Eric Jones o gân "Y Tangnefeddwyr, "Talu'r Pris yn Llawn" gan D. Williams, "Carol y Seren" gan Gareth Glyn a "Bridge Over Troubled Water" gan Paul Simon.

'Roedd y côr bechgyn wedi paratoi rhaglen oedd yn cynnwys y caneuon "You Raise Me Up", "Pan Fo'r Nos yn Hir" a "Gwin Beaujolais". Cafodd y bechgyn ymarfer ar yr unfed ar bymtheg o Chwefror.

Dechreuodd yr ymarferion gogyfer â pherfformiad y gerddorfa linynnol ar yr unfed ar bymtheg o Chwefror hefyd. Cafodd yr offerynwyr fynychu cwrs yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog o'r unfed ar bymtheg o Chwefror tan y deunawfed. Yn ystod y tridiau hynny 'roedd cyfle i'r offerynwyr ladd nadroedd wrth ymbaratoi ar gyfer y cyngerdd efo cymorth nifer o staff peripatetig y Sir.

Chwaraeodd y gerddorfa symffoni gan Borodin.

Wedi i'r holl ymarferion fod, 'roedd hi'n bryd arddangos y gwaith. Felly, ar ddydd Mawrth, Rhagfyr 18fed, 2007 cynhaliwyd cyngerdd 'matinee' yn y prynhawn yng Nghanolfan y Celfyddydau ar gyfer plant ysgolion cynradd y Sir. Yna, estynnwyd croeso i'r cyhoedd yn y nos - o ffrindiau a theulu, i'r ci a'r gath!

Teilwng ydyw dweud fod pawb a wrandawodd ar y wledd o gyngerdd wedi mwynhau eu hunain i'r eithaf ac wedi cael modd i fyw wrth wrando ar y campweithiau canu ac offerynnol. Teilwng ydyw dweud hefyd fod yr holl blant a gymerodd ran yn y gyngerdd wedi mwynhau creu y perfformiadau ac wedi mwynhau bod ar lwyfan.

Os wnaethoch golli'r cyngerdd, na phoenwch!! Mae cryno-ddisg arbennig yn cael ei recordio ym mis Ionawr o'r corau a ganodd yn y Neuadd Fawr yr wythnos ddiwethaf. Bydd y cryno ddisg yn barod erbyn haf 2008 ac mi fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2008. Peidiwch ag oedi i'w brynu!!

'Roedd cyngerdd 'partïon' y Sir - fel pob blwyddyn arall a fu ac fel pob blwyddyn arall a ddaw dwi'n siŵr, yn llwyddiant ysgubol ac adlewyrchodd y ffaith bod llawer iawn, iawn o dalentau yng Ngheredigion.'

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy