BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberystwyth
Llun o mosaigYsgerbwd yn ysbrydoli gwaith newydd
Mae grŵp o archeolegwyr ifanc, sy'n cwrdd yn Amgueddfa Ceredigion, yn creu cofnod celfyddydol yn olrhain hanes castell Aberystwyth.
Fel rhan o brosiect cyffrous i gynhyrchu cyfres o baneli hanesyddol addurnol, byddant yn creu mosaig a fydd yn dangos un o'r darganfyddiadau pwysicaf yng nghastell Aberystwyth.

Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar ysgerbwd, a ddangosir yn oriel archeoleg yr amgueddfa. Roedd John Ibbotson, cydlynydd yr Archeolegwyr Ifanc yn falch o'r cyfle i weithio ar y prosiect amgueddfa hwn gyda'r grŵp, a dywedodd, 'Pan wnaethom gyfarfod am y tro cyntaf yn yr amgueddfa, aethom ati i gynnal astudiaeth fanwl o'r ysgerbwd. Cafodd ei enwi ganddynt hyd yn oed, Charlie, ac roedd yn destun nifer o'r cyfarfodydd cynnar'.

Bydd y bobl ifanc yn edrych unwaith eto ar 'Charlie' gan gynhyrchu murlun mosaig tair troedfedd a fydd yn dangos y gwaith o godi'r corff. Bydd yr arlunydd Pod Clare yn gweithio gyda'r grŵp yn yr amgueddfa ar ddechrau'r prosiect. Yn y pen draw, bydd y panel yn cael ei arddangos ar y waliau islaw'r Gofeb Rhyfel ger y Castell ar y promenâd, ynghyd â chyfres o mosaigau eraill a fydd yn dangos adegau hanesyddol pwysig yn hanes y castell. Mae Amgueddfa Ceredigion yn cynnwys rhai darganfyddiadau diddorol o'r castell a bydd y paneli hyn yn helpu i gysylltu'r safle gyda'r amgueddfa.

Mae Stuart Evans, dylunydd yn Amgueddfa Ceredigion, yn rhoi esboniad manylach o waith y prosiect. 'Y nod yma yw amlygu naw pwynt allweddol am hanes Castell Aberystwyth. Trwy osod y mosaigau addurnol hyn ar hyd y promenâd ger yr adfeilion, byddwn yn meithrin ymwybyddiaeth o hanes y castell a'r dref.' Aeth Stuart ymlaen i ddweud, 'Mae'r castell yn un o'r prif safleoedd hanesyddol yng Nghanolbarth Cymru ac mae ganddo hanes diddorol iawn. Mae Amgueddfa Ceredigion yn cynnwys rhai o'r darganfyddiadau archeolegol yn un o'i orielau, gan gynnwys pelenni canon metel a charreg. Aberystwyth oedd un o'r safleoedd cyntaf ar gofnod lle y defnyddiwyd canonau ym Mhrydain.'

Trwy weithio gyda grŵpiau cymunedol lleol megis yr Archeolegwyr Ifanc, gall Amgueddfa Ceredigion ysbrydoli pobl i ymddiddori yn eu hanes. Mae arian Cymunedau yn Gyntaf wedi helpu i dalu am y prosiect hwn ac mae Cyngor Tref Aberystwyth yn helpu hefyd. Mae Stuart yn ychwanegu, 'Nid yw nifer o'r ymwelwyr sy'n dod i'r dref yn sylweddoli yr adeiladwyd castell pwysig yn Aberystwyth yn 1277 a bod muriau o gwmpas y dref. Enwir stryd 'Great Dark-Gate' a stryd Y Porth Bach ar ôl y tyrau ym muriau'r dref. Cadwyd y Cymry brodorol allan o'r cadarnle Seisnig gan yr amddiffynfeydd hyn'.

Mae rhai o'r pwyntiau allweddol yn hanes Castell Aberystwyth yn cyfeirio at ymosodiadau mentrus a gwaedlyd ar y murfylchau. Llwyddodd Owain Glyndwr i orchfygu'r castell a'i golli eto. Ar un adeg, defnyddiwyd y castell i fathu arian a gwelwyd y prif ymdrech i ddinistrio'r muriau yn digwydd ar ôl y Rhyfel Cartref. Fel mae un o'r archeolegwyr ifanc yn nodi 'Rydym yn tueddu i ystyried mai safle rhamantaidd yw adfeilion y castell sy'n gysylltiedig â gorffennol pell ond mewn gwirionedd, roedd yn safle garw a chreulon lle y bu pobl yn brwydo tan farwolaeth. Mae gwneud mosaig o ysgerbwd yn ein hatgoffa o hynny'.

Mae Stuart yn ychwanegu, 'Ar ôl cwblhau'r naw mosaig, cânt eu gosod ar y muriau wrth gefn y bwâu ar hyd y promenâd. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gweithio ar un o'r paneli, cysylltwch â Stuart Evans yn Amgueddfa Ceredigion am ragor o fanylion ar 01970 633078.

  • Cliciwch trwy gyfres o luniau ynglyn a'r prosiect.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Lluniau
    Trefi
    Digwyddiadau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy