Daeth cynulleidfa niferus ynghyd i Gae Sgwâr fore Sul, 29 Gorffennaf i ymuno mewn gwasanaeth o ddiolchgarwch am fendith parhaol Duw ar dref harbwr a thrigolion Aberaeron dros y ddau gan mlynedd diwethaf.
Daeth dros mil o bobl ynghyd i ddathlu ac i foli a bendithiwyd y gynulleidfa gan dywydd godidog i nodi'r achlysur.
Roedd cynrychiolwyr o brif enwadau ffydd yr ardal leol, gan gynnwys gweinidogion yr enwadau anghydffurfiol, cynrychiolwyr o'r Eglwys Babyddol, yn ogystal ag Archesgob Cymru, y Dr. Barry Morgan. Traddododd yntau bregeth drawiadol a bwysleisiodd werthoedd Cymuned a Chenhadaeth, nodweddion meddai, oedd mor nodweddiadol o dreftadaeth ac etifeddiaeth y dref hon.
Ymbiliodd ar i'r Ffydd Gristnogol ddwyn gwersi o brofiadau tref harbwr Aberaeron ac i fynd i'r afael ag addasu i ofynion yr oesoedd. Yn yr un modd roedd y dref hon wedi dygymod â dirywiad ei diwydiant gychod a'i phorthladd ddiwydiannol gan esblygu yn lle hynny yn dref boblogaidd i ymwelwyr a thwristiaid, roedd yn bryd i'r Ffydd Gristnogol sicrhau eu pherthnasedd gyda threigl amser.
Nid newid cynnwys a sylfaen y gair oedd y nod meddai'r Archesgob yn ei anerchiad, ond sicrhau bod y ffydd Gristnogol yn cael ei chyfathrebu yn fwy effeithiol, bwysicaf oll i'r bobl ifainc.
Roedd yna bump thema i'r gwasanaeth, a phob un â rhyw arwyddocâd i'r dref a'r filltir sgwâr.
Cafwyd darlleniadau a gweddïau yn ymwneud â'r Cread, Y Môr, Dewi Sant, Cenhadaeth a'r Dyfodol. Roedd y themâu yn briodol iawn o ystyried fod nawddsant Cymru yn frodor o blwyf Henfynyw ger Aberaeron, ac y bu'r Cenhadon Cristnogol cynharaf fyfyrio a gweddïo ar lannau Bae Ceredigion.
Gweddïwyd dros y sawl hynny a gollodd eu bywydau ar y môr, gan gynnwys 16 o frodorion o Aberaeron a suddodd ar long y Madeira bron i gant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Gan edrych i'r dyfodol gweddïwyd am fendith parhaol Duw dros y dref a'i thrigolion, a thros y sawl hynny sy'n hwylio moroedd tymhestlog Bae Ceredigion.
Yn ogystal â'r darlleniadau a'r gweddïau, roedd yna arlliw gerddorol i'r gwasanaeth. Fe wnaeth y canu cynulleidfaol o dan arweinyddiaeth meistrolgar Delyth Hopkins Evans a chyfeiliant Lona Brierley argraff fawr ar bob un. Â'r canu yn atseinio ar y system sain roedd lleisiau Aberaeron i'w clywed am bellteroedd maeth!
Comisiynwyd darn arbennig o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr Robert Arwyn gogyfer y gwasanaeth. Gwnaethpwyd hynny drwy nawdd a charedigrwydd Elinor Ingham, Cadeirydd Pwyllgor Apêl y Deucanmlwyddiant. Comisiynodd hithau y gerddoriaeth er cof annwyl am ei rhieni, Gwilym a Joyce Jones, Riversdale, Aberaeron.
Thema morwrol sydd i'r caneuon a gyfansoddwyd gan Robert Arwyn. Telyneg hiraethus am ddau gariad wedi gwahanu dros dro yw "Y Lloer yn fy Llaw". Gadewir i'r gwrandäwr ddychmygu drosto'i hun p'un ai morwr wrth ei waith, pysgotwr mewn storm neu efallai rhywun a orfodwyd i groesi'r lli i gyfandir arall yw gwrthrych y gân.
Gweddi syml yw "Gweddi'r Pysgotwr", yn seiliedig ar adnodau allan o Eseia 25 a Salm `07, a'r pysgotwr y tro hwn yn ymbil am ofal Duw i'w tywys yn ôl i sicrwydd ei borthladd. Yn "Heddiw ddoe yfory" daw'r llong yn ôl i'r harbwr, a'r ddau gariad bellach yn ailafael yn eu perthynas, gan edrych yn ôl ar yr hyn a fu, gwneud y gorau o'u presennol, a wynebu y dyfodol yn llawn hyder.
Perfformiwyd y campwaith yma gan Côr Cardi-Gan, côr a sefydlwyd o dan arweinyddiaeth y wraig fusnes leol Rhian Dafydd. Heledd Williams oedd yn barod i doncio'r piano a chyfeilio ar ei rhan.
Trefnwyd y gwasanaeth Eciwmenaidd gan is-bwyllgor Eciwmenaidd Pwyllgor y Deucanmlwyddiant, o dan gadeiryddiaeth meistrolgar y Parchedig Rhidian Jones.
Carai trefnwyr y gwasanaeth ddiolch i bawb a sicrhaodd fod y gwasanaeth o fawl yn gymaint o lwyddiant, gan ddiolch i'r sawl a fynychodd yn eu niferoedd ac i unigolion a busnesau lleol am eu nawdd ariannol.
Tomos Dafydd
Lluniau o'r gwasanaeth ar ddydd Sul 29, Gorffennaf.