BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberaeron

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberaeron
Arddangosfa Tân Gwyllt AnhygoelDathlu yn Dechrau
Diwrnod o Dreftadaeth Morwrol a Thân Gwyllt i gychwyn wythnos fawreddog o ddathliadau
  • Lluniau o'r diwrnod

    Cafwyd yr agoriad delfrydol i ben blwydd Aberaeron ddydd Sadwrn wrth i'r haul dywynnu'n braf dros y dathliadau ger yr harbwr.

    Cychwynnodd yr wythnos o ddathliadau â diwrnod liwgar i goffau treftadaeth forwrol yr ardal. Roedd yna arddangosfeydd amrywiol i'w canfod ger y clwb hwylio, gan gynnwys arddangosfa yn dangos sut oedd mynd ati i greu cewyll a rhwydi i ddal gorgimychiaid!

    Roedd yna stondinau amrywiol yn gwerthu pob math o bethau, gan gynnwys gwaith celf gan artistiaid lleol, hen drugareddau morwrol yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif, a chynnyrch o winllan Ffynnon Las ger Aberaeron.

    Roedd y tywydd braf ag awel y môr yn magu digon o syched a chwant bwyd ymhlith yr ymwelwyr. Wrth lwc roedd yna stondin yn gwerthu seidr cartref wrth law, ac Owain y cigydd lleol yn gwerthu ei selsig arbennig i goffau'r deucanmlwyddiant!

    Gyda'r nos fe drodd y tywydd am y gwaethaf a bu i'r dref dystio'r cawodydd rhyfedda. Serch hynny nid oedd hynny yn ddigon i dorri ysbryd a brwdfrydedd y bobol leol a'r llu o ymwelwyr oedd wedi ymgynnull yn y dre.

    Glaw neu hindda roedd miloedd yn sefyll ar hyd wal yr harbwr erbyn wyth o'r gloch i wylio arddangosfa yr RNLA. Roedd yn gyfle i bobol bae Ceredigion gael dangos ei gwerthfawrogiad i'r rhai hynny sy'n gwneud cymaint o waith clodwiw yn amddiffyn ac yn achub morwyr a chychod mewn tymestl.

    Wrth iddi nosi fe oleuodd yr harbwr. Roedd y clwb hwylio wedi gwisgo cychod yr harbwr ar ffurf noson Fenisaidd. Roedd y lle yn gasgliad o olau gwyrdd, glas a gwyn yn dawnsio ac yn adlewyrchu ar hyd wyneb y dŵr, a'r dorf wrth eu bodd.

    Toc cyn unarddeg y nos cafwyd yr arddangosfa dân gwyllt fwyaf drawiadol a dystiwyd erioed o'r blaen yn y dref, yn fy marn i. Am chwarter awr di-dor goleuodd yr awyr yn gybolfa o liwiau amrywiol, ac fe swynwyd y dorf gan arddangosfa broffesiynol a gododd calonnau pob un wrth i'r glaw bistyllu yn ddidrugaredd i lawr.

    Dyma beth oedd agoriad rhagorol a delfrydol i wythnos sy'n argoeli bod yn dipyn o ddathliad pen-blwydd!

    Tomos Dafydd

  • Mwy am y dathliadau
  • Lluniau o'r diwrnod


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Digwyddiadau
    Trefi
    Radio Cymru
    Lluniau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy