 |  | Oriel luniau o ddyffryn Aeron
|  |  |
 |  |  Pentref Felinfach |  |  Ysgol gynradd Felinfach |  |  |  |  Theatr Felinfach, sydd yn ganolfan ddiwylliannol bwysig yn y dyffryn. Mae nifer o ddramau sy'n teithio Cymru yn perfformio yma. Bob blwyddyn ceir Pantomeim arbennig y Theatr, gyda phobol leol yn sgriptio ac actio.. |  |  Cofeb Simon Davies ar dir y Theatr - mae'n cynrychioli addysg, diwydiant a diwylliant. "Y tri yn cynnal fflam cefn gwlad." |  |  |  |  Ffatri 'Sensient' Felinfach - y ffatrïoedd ar gyrion y pentref oedd un o brif gyflogwyr yr ardal yn 2005 |  |  Eglwys Ystrad Aeron |  |  |  |  Tafarn y Vale of Aeron (Tafarn y Dyffryn) yng nghanol pentref Ystrad Aeron. Gwelir plac ar wal y dafarn yn nodi ei le ar Lwybr Dylan Thomas. Roedd y bardd yn ymwelydd cyson yma. |  |  Tafarn Braenog Arms yn Ystrad Aeron. Daw'r enw o ystâd y Braenog gerllaw. Ystyr y 'Braenog' mae'n debyg yw Brain. |  |  |  |
| 
|