Bardd cythryblus a fu farw'n annhymig
Cymro alltud oedd Harri Jones am y rhan fwyaf o'i oes - ffaith a oedd yn ganolog i'w gerddi telynegol - ac ni chafodd fawr o gydnabyddiaeth yn ei wlad ei hun yn ystod ei oes fer. Serch hynny, mae ei farddoniaeth wedi ennill cryn glod yn y blynyddoedd diweddar, diolch yn bennaf i feirniaid megis Don Dale-Jones a Bernard Jones, a gyhoeddodd fywgraffiad meistrolgar ohono yn 2001, ac fe welir ei gerddi ym mhob un o'r blodeugerddi pwysicaf.
Fe aned Thomas Henry Jones ym 1921 yng Nghwm Crogau, tyddyn ger Llanafan Fawr, Sir Frycheiniog, yn fab fferm: Cymraeg oedd iaith ei dylwyth ond roedd ei fam yn ddi-Gymraeg ac felly fe'i magwyd ar aelwyd Saesneg.
Amharwyd ar ei astudiaethau yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, gan wasanaeth rhyfel gyda'r Llynges, ond dychwelodd i'r Coleg ger y Lli i gwblhau ei gwrs gradd ym 1947, a dwy flynedd yn ddiweddarach derbyniodd radd MA.
Yn ystod ei ddyddiau coleg roedd yn boblogaidd iawn fel actor ac yn atyniadol i ferched: ymhlith ei gariadon oedd Rachel Roberts, yr actores adnabyddus.
Mynd dramor
Cafodd ei swydd gyntaf fel tiwtor yn Ysgol Prentisiaid Dociau'r Llynges yn Portsmouth ac yn y man fel darlithydd gyda Chymdeithas y Gweithwyr.
Ym 1959, wedi methu dod o hyd i swydd darlithydd yng ngwledydd Prydain, aeth i Awstralia i lenwi swydd yn Adran Saesneg Prifysgol New South Wales yn Newcastle, lle ymgartrefodd gyda'i wraig a'u tair merch fach.
Roedd yn athro disglair ac yn ddarllenydd ardderchog o'i waith ei hun.
Eto i gyd, roedd yn dioddef o'r felan ac yn yfed yn drwm iawn.
Marw'n ifanc
Daeth ei ddiwedd yn sobor o sydyn: un noson ym mis Ionawr 1965, ni ddaeth adref o'r dafarn ac, yn gynnar drannoeth, daethpwyd o hyd i'w gorff mewn hen bwll nofio ger ei gartref.
Dychwelwyd ei weddillion i Gymru ac fe'u claddwyd ym mynwent Eglwys Llanfihangel Brynpabuan, gerllaw Cwm Crogau, yn ôl ei ddymuniad.
Gwelir plac er cof amdano ar wal allannol Ysgol Ramadeg Llanfair-ym-Muallt a phenddelw yn y cyntedd.
Yn ei gasgliad cyntaf, The Enemy in the Heart (1957), ceir y cerddi a ysgrifennwyd yn ystod y degawd blaenorol.
Colli sicrwydd
Mae'r rhan fwyaf yn trin, mewn modd metaffisegol, y tensiwn rhwng angerdd dyn ifanc a huawlau'r Piwritaniaeth yr oedd wedi ei ddysgu yn y capel; mae nifer ohonynt yn dangos dylanwad Dylan Thomas, testun ei fonograff yn y gyfres Writers and Critics.
Ond yn ei ail gyfrol, Songs of a Mad Prince (1960), fe glywir ei lais ei hun, ac ar gyfer y drydedd, The Beast at the Door (1963), sy'n cyflywno ei ymateb i dirweddau Awstralia ac yn edrych yn ôl at Gymru, ysgrifennodd rai o'i gerddi gorau.
Daeth cyfrol arall o'r wasg, sef The Colour of Cockcrowing, ar ôl ei farwolaeth annhymig, ym 1966, ac ymddangosodd ei Collected Poems ym 1977.
Ceir detholiad o'i gerddi yn Lucky Jonah yng nghyfres y Corgi (2004) a disgwylir casgliad cyflawn o'i gerddi gan Wasg Prifysgol Cymru cyn diwedd 2005.
Mae gwaith Harri Jones yn llawn llawenydd, anobaith ac hiraeth am wlad a oedd yn amlwg yn agos at ei galon, rhyw fath o Eden goll, er gwaethaf ei ffaeleddau.
Dyn oedd wedi colli ei wreiddiau ydoedd, â'r iaith Gymraeg a'i dylwyth yn anad dim, ond hefyd â'r ffydd Gristnogol a oedd wedi bod yn rhan annatod o'i blentyndod.
Allan o'r colledion hyn, a'r tensiwn rhwng ei feddwl a'i galon, fe greodd y bardd gerddi dirdynnol sy'n fodernaidd yn eu hanfod, ac am hynny fe'i cofir heddiw.
Meic Stephens