Un o deulu enwog o lythyrwyr, awdur a hynafiaethydd â chysylltiadau â Cheredigion.
Yr un hynaf o'r pedwar brawd a adwaenir fel Morrisiaid Môn oedd Lewis Morris, a'r un galluocaf, mae'n debyg; galwai ei hun yn Llewelyn Ddu o Fôn hefyd. Roedd yn wladgarwr, ysgolhaig, bardd, mapiwr a hynafiaethydd.
Gyda'i frodyr, hwn oedd pen-llythyrwr llên Cymru ei gyfnod. Mae cryn fil o'u
llythyrau wedi goroesi ac maent yn llawn o wybodaeth am fywyd llenyddol a diwylliannol y cyfnod, i gyd wedi eu hysgrifennu mewn Saesneg a Chymraeg cyhyrog.
Roedd y brodyr yng nghanol bwrlwm deallusol eu hoes, yn Llundain ac yn Sir Fôn, ac yn ddylanwad mawr ar eu cydoeswyr.
Ganwyd Lewis Morris ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r-beirdd a'i fagu ym Mhentre-eiriannell, Penrhosllugwy, ar ochr arall mynydd Bodafon. Gwelir plac ar wal Tyddyn Melys, man ei eni, ac un arall ar wal Pentre-eiriannell er cof am y brodyr.
Ni wyddys llawer am ei flynyddoedd cynnar ac eithrio iddo gynorthwyo'i dad a oedd yn fasnachwr ar raddfa fechan. Ond meistrolodd grefft mesur tir, ac ym 1729 fe'i penodwyd yn swyddog yn y dollfa yng Nghaergybi a Biwmares. Bu ei gysylltiad â morwyr yn sbardun iddo sylweddoli bod angen gwneud map o arfordir Cymru, ac arweiniodd hyn at ddau gyhoeddiad ym 1748, sef siart o'r arfordir o'r Gogarth hyd Aberdaugleddau, ac atlas, Plans of Harbours, Bars, Bays and Roads in St. George's Channel.
Wedi ymweld â Sir Aberteifi ym 1742, dechreuodd gymryd diddordeb yng ngweithfeydd plwm y sir. Fe'i penodwyd yn ddirprwy stiward maenorydd y Goron
yng Ngheredigion ym 1746 ac felly cychwynnodd cyfnod helbulus yn ei fywyd,
gan fod uchelwyr lleol megis Herbert Lloyd o Ffynnon Bedr yn herio hawl y Goron i fwyngloddio am blwm. Ymgartrefodd Lewis Morris yng Ngalltfadog, ger
Capel Dewi, ac wedyn ym Mhen-bryn, Goginan, lle y bu farw ym 1765.
Breuddwyd mawr Lewis Morris oedd darparu corff o lenyddiaeth ddifyr yn Gymraeg ar gyfer pobl oedd yn troi at ddiwylliant Saesneg. Argraffodd ar ei wasg ei hun yng Nghaergybi rifyn cyntaf Tlysau yr Hen Oesoedd (1735), detholiad o ryddiaith a barddoniaeth ysgafn.
Ysgrifennodd nifer fawr o ddarnau rhyddiaith a cherddi, yn Gymraeg gan fwyaf, yn eu plith llythyrau ffansïol a dychanol yn null Jonathan Swift ac eraill. Mae rhai o'i englynion a phenillion rhydd yn amharchus iawn. Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi yn Y Diddanwch Teuluaidd ym 1763. Ar ben hynny, rhoddodd gymorth ac anogaeth i lenorion iau megis Goronwy Owen, Ieuan Fardd ac Edward Richard.
Prif ddiddordeb arall Lewis Morris oedd hynafiaethau, yn arbennig hanes cynnar Cymru. Roedd yn selog dros amddiffyn enw da ei genedl trwy anfon gwybodaeth at haneswyr estron a thrwy lunio math o eiriadur o enwau personol ac enwau lleoedd yr oedd sôn amdanynt yn y traddodiad Cymraeg, dan y teitl Celtic Remains; cyhoeddwyd rhan ohono ym 1878 dan olygyddiaeth Daniel Silvan Evans.
Gadawodd ar ei ôl bentwr mawr o lawysgrifau a fu'n gyfrwng i ddiogelu dysg Gymraeg ar adeg pan nad oedd na llyfrgell genedlaethol na phrifysgol i wneud hynny.
Lewis Morris, yn ddi-os, oedd prif hyrwyddwr yr adfywiad clasurol mewn dysg a llên yng Nghymru yn ystod y ddeunawfed ganrif.