Traethodydd a diwinydd
Traethodydd a diwinydd oedd Lewis Edwards, ac un o'r ffigyrau llenyddol mwyaf dylanwadol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd e hefyd yn bregethwr blaenllaw ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd a wnaeth lawer i godi safonau addysgol y weinidogaeth, gan gyflwyno ehangder a dyfnder diwylliannol newydd.
Yn anffodus, cymeradywodd eglwysi Saesneg yng Nghymru - yr 'Inglis côs' a heriwyd yn ffyrnig gan Emrys ap Iwan.
Ganwyd ef ym Mhwllcenawon, fferm ger Capel Bangor yn Sir Aberteifi, ym 1809.
Wedi ysbaid fel pregethwr ac ysgolfeistr yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin, aeth i Brifysgol Caeredin ac yn y ddinas honno daeth dan ddylanwad John Wilson (Christopher North) a Thomas Chalmers.
Ym 1836 priododd ag wyres i Thomas Charles ac ymsefydlu yn y Bala.
Daeth yr ysgol y cychwynnodd yno i baratoi disgyblion i fod yn weinidogion yn athrofa yr Hen Gorff ym 1839. Bu'n Brifathro Coleg y Bala am hanner canrif.
Sefydlu'r Traethodydd
Fe gofir Lewis Edwards heddiw yn bennaf ar gyfrif y ffaith y sefydlodd y cylchgrawn Y Traethodydd ym 1843, mewn cydweithrediad â Roger Edwards a Thomas Gee.
Roedd Lewis yn draethodydd cynhyrchiol iawn, a chasglwyd detholiad o'i ysgrifau dan y teitl Traethodau Llenyddol tua 1865.
Mae rhychwant ei ddiddordebau yn eang iawn: ymdriniodd â llenorion estron megis Shakespeare, Milton, Kant a Goethe, yn ogystal â llenorion Cymraeg megis William Salesbury, Morgan Llwyd, Goronwy Owen ac Eben Fardd.
At hynny bu'n ddigon call i wawdio'r ffolineb o alw Twm o'r Nant 'The Cambrian Shakespeare'.
Bu ei ysgrifau'n garreg filltir yn hanes datblygiad beirniadeth llenyddol yng Nghymru.
Diddordeb mewn diwinyddiaeth
Mae ei ail gyfrol, Traethodau Duwinyddol (tua 1872), yn cynnwys gweithiau hir a thrwm ar destunau megis Athrawiaeth yr Iawn a Chysondeb y Ffydd.
Un o'i egwyddorion sylfaenol yw fod 'yr iawn farn ar bob pwnc yn cynnwys dau wirionedd gwrthgyferbyniol'.
Yn y ddwy gyfrol hon, ac yn ei Hanes Duwinyddiaeth (1889), ceisiodd leddfu, i raddau, ar dreftadaeth Calfiniaeth Efengylaidd y Diwygiad Methodistaidd gyda ei ddehongliad ef o fudiadau dyneiddiol a Rhamanataidd Ewrop.
Cafodd ei ganmol am hyn gan rai ond erbyn heddiw, ei ddifrïo.
Ym 1875 derbyniodd dysteb gan aelodau'r Hen Gorff o £2,600.
Bu farw ym 1887 a chladdwyd ef ym mynwent Llanycil gerllaw bedd Thomas Charles.
Yr enwocaf o'i blant oedd Thomas Charles Edwards, Prifathro cyntaf Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Saif cof-colofn i Lewis Edwards ger yr adeilad a oedd yn arfer bod yn Goleg Diwinyddol y Bala.
Gwelir pen-ddelw ohono yn erbyn wal capel Pen-llwyn yng Nghapel Bangor, Ceredigion.
Meic Stephens