Sylfaenydd Amgueddfa Werin Cymru, bardd a hanesydd
Bardd, ysgrifwr, ysgolhaig a churadur cyntaf Amgueddfa Werin Cymru oedd Iorwerth Cyfeiliog Peate. Ysgrifennodd am agweddau amrywiol ar ddiwylliant gwerin, yn enwedig crefftau gwledig a phensaernïaeth draddodiadol, ac er ei fod wedi treulio rhan fwyaf ei oes yng nghyffiniau Caerdydd, mae ei farddoniaeth yn adlewyrchu ei gefndir gwledig ym Mhowys.
Bardd ceidwadol ydoedd, er nad oedd yn gynganeddwr, a lluniodd nifer o gerddi coeth a phoblogaidd.
Ganwyd ef ym 1901, yn fab i saer, ym Mhandy Rhiwsaeson ym mhlwyf Llanbrynmair, Sir Drefaldwyn, ardal a oedd yn ei dyb ef yn nodweddiadol o'r Gymru Anghydffurfiol, Radical a oedd yn agos at ei galon ar hyd ei oes.
Gyrfa gyda'r amgueddfa
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan arbenigo mewn cyn-hanes Cymru.
Cychwynnodd ar ei yrfa fel swyddog yr Amgueddfa Genedlaethol pan benodwyd ef yn Is-geidwad yn yr Adran Archaeolog ym 1927; fe'i ddyrchafwyd yn bennaeth Is-adran Diwylliant a Diwydiannau Gwerin pum mlynedd yn ddiweddarach.
Erbyn hynny roedd yn dyheu am sefydlu amgueddfa werin yng Nghymru ar batrwm amgueddfeydd yng ngwledydd Llychlyn.
Pan sefydlodd yr Amgueddfa yng nghastell Sain Ffagan ar gyrion Caerdydd, ym 1948, fe'i penodwyd i swydd y Curadur, ac yno yr arhosodd hyd ei ymddeoliad ym 1971.
Awdur amrywiol a chynhyrchiol
Ysgrifennodd yn helaeth ar y diwylliant materol Cymreig ac mae ei erthyglau a llyfrau ymysg y gweithiau mwyaf awdurdodol yn y maes.
Maent yn cynnwys Cymru a'i Phobl (1931), Y Crefftwr yng Nghymru (1933), Diwylliant Gwerin Cymru (1942) ac Amgueddfeydd Cymru (1948).
Ei brif waith yn Saesneg yw The Welsh House (1940), ond ysgrifennodd yn ogystal Guide to Welsh Bygones (1929), Clock and Watch Makers in Wales (1945) a Tradition and Folk Life: a Welsh View (1972). Nodweddion y llyfrau hyn yw cynildeb, gwybodaeth manwl ac edmygedd o'r bobl a phethau maent yn eu disgrifio a'u trafod.
Dyn urddasol, ond gor-ffurfiol ar adegau, oedd Iorwerth Peate, o leiaf yng ngolwg y rhai nad oedd yn ei adnabod yn dda.
Mynnu Cymru uniaith
Roedd ganddo argyhoeddiadau cryfion, yn enwedig parthed Heddychiaeth a'r iaith Gymraeg.
Nid oedd yn credu mewn dwyiethrwydd: roedd e am weld Cymru'n wlad unieithog ar batrwm cymdeithas ei febyd.
Dengys ei safbwynt mewn tair cyfrol o ysgrifau: Sylfeini ( 1938), Ym Mhob Pen (1948) a Syniadau (1969), lle mynegodd ei farn mewn Cymraeg cyhyrog a rhywiog.
Yn Rhwng Dau Fyd (1976) a Personau, a ymddangosodd ym 1982, blwyddyn ei farw, edrydd hanes ei fywyd yn ddi-dderbyn-wyneb.
Adrodd stori ddirdynnol
Mae ei adroddiad ar glirio'r Cymry Cymraeg a drigai ar Epynt er mwyn paratoi'r tir ar gyfer y Fyddin ymhlith y pethau mwyaf tor-calonnus ymhlith ei holl waith.
Telynegion yw rhan fwyaf ei gerdddi, ac mae e'n gwneud defnydd mynych o'r odl ddwbl sy'n ychwnegu at eu swyn a'u melodiau.
Treigl amser yw ei brif thema, ond mae serch, harddwch natur, ei fro enedigol a gogoniannau yr hen fywyd gwledig yn ei ysbrydoli hefyd.
Dyma deitlau ei gasgliadau o gerddi: Y Cawg Aur (1928), Plu'r Gweunydd (1933) ac Y Deyrnas Goll (1947): detholiad o'i waith sydd yn Canu Chwarter Canrif (1957) a chyhoeddwyd Cerddi Diweddar (1982) ychydig wedi iddo farw.
Bu farw ym 1982. Gwelir plac ar y tŷ ger Pandy Rhiwsaeson lle ganwyd Iorwerth C. Peate, ac un arall, lle claddwyd ei lwch, tu cefn i Gapel Penrhiw yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.
Meic Stephens