Ysgolhaig a bardd
Ysgolhaig ac un o feirdd Cymraeg mwyaf blaenllaw'r ddeunawfed ganrif oedd Ieuan Fardd, neu Ieuan Brydydd Hir, i roi arno yr enw arall a arddelai o dro i dro; ei enw iawn oedd Evan Evans, ac felly roedd angen enw mwy arbennig arno'n wir. Roedd yn nodweddiadaol o'i oes pan oedd dysg mewn cyflwr gwan yng Nghymru, ond wnaeth gyfraniad dewr i hyrwyddo gwybodaeth o'r traddodiad Cymraeg hyd eithaf ei allu.
Ganwyd ef yng Nghynhawdref, tŷ fferm ym mhlwyf Lledrod yn Sir Aberteifi, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ystradmeurig a Choleg Merton yn Rhydychen.
Urddwyd ef yn offeiriad Anglicanaidd ym 1755 a bu am ddwy flynedd ym Manafon, Sir Drefaldwyn, cyn dechrau symud o blwyf i blwyf yng Nghymru a Lloegr.
Yn ystod deng mlynedd olaf ei oes trigai yng Nghynhawdref, cartref ei fam, yn cael ei gynnal gan roddion ei gyfeillion; rhoddodd ei noddwr Paul Panton, bensiwn iddo yn gyfnewid am ei gasgliad o lawysgrifau.
Meddwi a herio
Deilliodd y tensiwn ym mywyd crwydrol Ieuan Fardd o'i wasanaeth i Eglwys Loegr a'i ymroddiad i ddysg a llenyddiaeth Cymru ar adeg pan nad oedd y ddau'n gallu cyd-fyw yn hawdd.
Ni chafodd ddyrchafiad erioed a rhoddwyd y bai ar ei arfer o feddwi gormod, ond dylid cofio hefyd iddo ddigio rhai a allai fod o gymorth iddo.
Roedd yn hallt iawn ei farn ar 'yr Esgyb Eingl', sef yr esgobion Saesneg a oedd yn gyfrifol am benodi clerigwyr uniaith Saesneg i blwyfi yng Nghymru.
Yn ôl Samuel Johnson roedd Evans yn 'incorrigibly addicted to drink'.
gwaith ysgolheigaidd
Lewis Morris, yr hynafiaethydd o Sir Fôn, a roddodd Ieuan Fardd ar ben y ffordd i fod yn lenor ac ysgolhaig, ac o dan ei gyfarwyddyd ef y dysgodd sut i gopïo hen lawysgrifau a meistrioli'r mesurau caeth.
Treuliodd dri mis yn Rhydychen yn copïo barddoniaeth o Lyfr Coch Hergest yn Llyfrgell Coleg Iesu.
Dychwelodd wedyn i ogledd Cymru a thrigo yno rhwng 1758 a 1766, gan ddarganfod nifer o hen destunau pwysig megis 'Y Gododdin' a gwaith Taliesin.
Ei lyfr Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards (1764) oedd y detholiad helaeth cyntaf o farddoniaeth gynnar Gymraeg i gael ei gyhoeddi.
Am weddill ei oes helbulus copïo ac astudio'r llawysgrifau fu ei holl dileit.
Ni chafodd gydnabyddiaeth am hyn, ond defnyddwyd nifer o'i adysgrifau gan olygyddion diweddarach y Myvyrian Archaiology (1801).
Bardd galluog
Roedd yn arwyddocaol hefyd fel bardd. Ysgrifennodd, yn anad dim, gywyddau cyfarch i rai o'i noddwyr a'i gyfeillion nad ydynt heb swyn a gwerth llenyddol; cafodd ei gerdd 'Hiraeth y bardd am ei wlad' ei chyfansoddi pan oedd yn gurad anhapus yng Nghaint.
Ymgais yw ei gerdd wladgarol Saesneg 'The Love of our Country' i ennyn balchder y Cymry dysgedig yn eu hetifeddiaeth drwy amddiffyn eu hanes rhag ensyniadau awduron Saesneg.
Ond efallai ei gerdd enwocaf yw'r englynion sy'n dwyn y teitl 'Llys Ifor Hael', a gyfansoddodd ar ymweliad ag adfeilion tŷ Ifor ap Llywelyn, un o noddwyr Dafydd ap Gwilym, ym Masaleg yn Sir Fynwy yng nghwmni Iolo Morganwg ym 1779.
Bu farw ym 1788. Cyhoeddwyd casgliad o'i weithiau ym 1876 gan Daniel Silvan Evans a golygwyd detholiad gan O.M.Edwards yng Nghyfres y Fil ym 1912.
Meic Stephens