Bardd a arloesodd adloniant ysgafn
Un o hoff ddywediadau Idwal Jones oedd i'r perwyl nad oedd cenedl y Cymry yn cymryd eu hiwmor yn ddigon o ddifrif. Doniolwch oedd wrth wraidd bron popeth y gwnaeth yn ystod ei fywyd byr. Roedd gydag ef arabedd a huotledd diarhebol. Un tro, ac yntau'n llanc, daeth rhywun at ddrws ei gartref yn gofyn am ei dad, Teifi, a oedd allan ar y pryd.
'Pwy ŷch chi, te?' holodd yr ymwelydd, a daeth yr ateb sionc, 'O, un o'r tributaries ydw i.'
Ganwyd Idwal Jones ym 1895 yn Llanbedr Pont Steffan yn Sir Aberteifi, ac yno treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.
Cyfraith, rhyfel ac addysg
Bu'n gweithio gyda busnes glo ei dad ac yn glerc mewn swyddfa cyfreithiwr lleol.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd yn nwyrain Affrica.
Wedi dychwelyd i'r henwlad, aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd mewn Saesneg ym 1923.
Aeth yn ysgolfeistr wedyn ym Mhontarfynach, ac o 1928 hyd 1932 bu'n ddarlithydd mewn Efrydiau Allanol.
Blodeuodd ei ddawn am ysgrifennu ac actio ar gyfrif llu o sgetsys doniol tra oedd yn fyfyriwr yn Aberystwyth.
Fel un o griw o fyfyrwyr, apeliodd at ysbryd eiconclastig pobl ifanc a oedd am wneud sbort ar ben y genhedlaeth hŷn gyda'u ystrywiau hwyliog.
Ysgrifennodd lawer o gerddi ysgafn yn cynnwys parodïau, limrigau, cerddi ffwlbri a chomedi cerddorol, Yr Eosiaid (1936).
Arloesi ym myd adloniant
Gwnaeth gyfraniad i adloniant ysgafn yn nyddiau cynnar y radio fel aelod o'r grwp poblogaidd Adar Tregaron ac fel sgriptiwr ar gyfer y cyfrwng newydd.
Yn wir, roedd Idwal Jones Jones yn chwedl am ddoniolwch ymhlith ei gyd-oeswyr.
Cyhoeddwyd ei gerddi a'i storïau yn Cerddi Digri a Rhai Pethau Eraill (1934), Cerddi Digri Newydd a Phethau o'r Fath (1937) ac Ystorïau a Pharodïau (1944).
Lluniodd nifer o ddramâu byrion hefyd, yn eu plith My Piffle, sgit ddwyieithog ar My People, casgliad o storïau byrion gan Caradoc Evans; fel Cardi i'r carn, nid hoff gan Idwal Jones oedd yr enllib ar gymeriad pobl ei sir.
Herio parchusrwydd
Ond ei weithiau pwysicaf yw'r ddrama Pobl yr Ymylon (1927), rhyw fath o ddadl yn erbyn parchusrwydd, ac Yr Anfarwol Ifan Harris, drama fuddugol Eisteddfod Genedlaethol 1928.
Bu farw Idwal Jones ym 1937.
Cyhoeddodd D.Gwenallt Jones gofiant ei gyfaill ym 1958.
Ar wal y tŷ yn Heol yr Orsaf, Llanbedr Pont Steffan, sydd erbyn hyn yn hostel myfyrwyr, gwelir plac er cof am Idwal Jones.
Meic Stephens.