BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llên
Banc Barclays, Y Drenewydd, lle gwelir plac er cof am Geraint Goodwin
Geraint Goodwin

Ganwyd: 1903

Magwyd: Y Drenewydd, Powys

Addysg: Ysgol y Sir, Tywyn.


Nofelydd a fu farw'n annhymig

Yn ystod ei oes cymharol fer ennillodd Geraint Goodwin enw fel awdur storïau byrion a nofelau o'r radd flaenaf.

Brwydrodd yn ddewr yn erbyn salwch a dewisodd fyw mewn amgylchiadau anodd er mwyn canolbwyntio ar ei grefft.

Carai ei fro enedigol gydag angerdd ac yn ei waith mae ei wlatgarwch yn amlwg trwyddi draw.

Gresyn nad yw ef wedi derbyn ei haeddiant yn ei wlad ei hun tan yn ddiweddar iawn.

Ganwyd ef ym 1903 yn Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn, ac roedd yn ymwybodol o fyw yn agos at y ffin â Lloegr.

Bu farw ei dad pan oedd yn wyth mlwydd oed ac ailbriododd ei fam â siopwr lleol.

Wedi gadael Ysgol y Sir, Tywyn, aeth yn brentis ar y Montgomeryshire Express, a symudodd i Stryd y Fflyd yn y man i weithio ar staff y Daily Sketch.

Ond ym 1930 dysgodd ei fod yn dioddef o'r ddarfodedigaeth, ac roedd rhaid iddo dreulio misoedd mewn sanatorium.

Roedd y profiad hwn yn sail i'w nofel gyntaf, Call Back Yesterday (1935).

Llenydda'n llawn-amser

Yn sgîl ei chyhoeddi, cafodd gytundeb am ddau lyfr arall a rhoes y gorau i'w swydd fel newyddiadurwr er mwyn llenydda.

Symudodd, gyda'i wraig a'i ferch, o Lundain i Dagnell yn swydd Hertford ac yno, dan anogaeth ei gynghorwr Edward Garnett, dechreuodd ysgrifennu o ddifrif am y bobl a'r wlad a adwaenai orau.

Cynnyrch cyntaf ei ryddid newydd oedd The Heyday in the Blood (1936), ei waith gorau ac enwocaf: cafwyd cyfieithiad gan Mair Closs Roberts o dan y teitl Bwrlwm yn y Gwaed (1976).

Yr un cyfieithydd oedd yn gyfrifol am ei nofel nesaf hefyd, sef Watch for the Morning (1938) o dan y teitl Hyfryd Fore (1981), ei nofel fwyaf uchelgeisiol.

Ysgrifennodd ei nofel olaf, Come Michaelmas (1939), yng Nghorris Uchaf, Sir Feirionnydd, lle oedd wedi symud i fyw y flwyddyn flaenorol mewn bwthyn a lle ganed ei ferch arall.

Cyhoeddodd hefyd gyfrol o storïau byrion, The White Farm (1937).

Y plac er cof am Geraint Goodwin ar wal Banc Barclays, Y DrenewyddOnd erbyn hyn roedd ei iechyd wedi gwaethygu ac, er ei fod wedi treulio'n agos at flwyddyn arall mewn sanatorium, nid oedd gwellhad i fod.

Mynnodd adael yr ysbyty er mwyn ymuno â'i deulu yn eu cartref newydd yn nhref Trefaldwyn ac yno y bu farw ym 1941.

Lleolir llyfrau Geraint Goodwin ar y Gororau, ardal a garai, ac y maent oll yn archwilio themâu cyffelyb ac yn portreadu cymeriadau tebyg.

Yn aml iawn cyferbynnir y dref a'i diwydiannau â'r wlad, yn enwedig bryniau Maldwyn.

Fel yng ngwaith D. H. Lawrence a Rhys Davies, tynnir gwhaniaeth rhwng gwragedd nwydus, cryfion a dynion gwan, eiddil o gorff.

Thema canolog arall yw ysblander yr etifeddiaeth Gymreig wedi'i gwreiddio'n ddwfn yn y pridd a'r diwylliant arwynebol Seisnig sy'n ei fwgwth ar bob llaw.

Mae pob un o'i gymeriadau wedi'i portreadu â chydymdeimlad ac edmygedd.

Ymddangosodd Collected Stories Geraint Goodwin ym 1976 a cheir detholiad yn The Shearing (2004) yng nghyfres y Corgi.

Gwelir plac er cof amdano ar wal Banc Barclays yng nghanol y Drenewydd.

Meic Stephens


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy