Bardd crefyddol, ac un o feirdd mawr y 16eg Ganrif
Bardd crefyddol ac un o feirdd mwyaf ei gyfnod oedd George Herbert. Ni chyhoeddwyd fawr ddim o'i waith yn ystod ei fywyd, er i lawer o'i farddoniaeth fynd o law i law mewn llawysgrifau am flynyddoedd.
Cymro ydoedd o ran tras, gan fod ei hen daid yn stiward yr holl diroedd brenhinol yng Nghymru.
Roedd yr Herbertiaid wedi bod yn amlwg ym mywyd y Gororau ers amser y Normaniaid.
Ar ochr ei fam, merch i un o dirfeddianwyr mwyaf swydd Amwythig, roedd yn disgyn o deulu Eutun.
Ond os dysgodd y bardd rhyw faint o'r Gymraeg yn ystod ei blentyndod, mae'n annhebyg iddo gofio llawer ohoni, oherwydd ar farwolaeth ei dad ym 1596 symudodd y teulu i Rydychen ac wedyn i Lundain.
Ymroi at wasanaeth Duw
Fe'i ganwyd ym 1593 naill ai yn Eutun neu yn Llundain; nid oes sicrwydd ynglyn â hyn.
Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt.
Oddi yno ar Ddydd Calan 1610 anfonodd ddwy soned at ei fam yn datgan ei fwriad o gysegru ei dalentau barddonol yn gyfan gwbl i wasanaeth Duw. Cadwodd at y bwriad hwn drwy gydol ei fywyd.
Gyda'r cerddi anfonodd lythyr lle soniodd hefyd am ei iechyd bregus a fu'n ei boeni gydol ei oes.
Yn academaidd bu George Herbert yn llwyddiannus dros ben. Cafodd ei benodi'n Gymrawd Coleg y Drindod ym 1616 ac yn Ddarllenydd Prifysgol mewn Rhethreg ym 1618. Daliodd swydd yr Areithydd hyd 1627.
Gyrfa fydol
Ar yr yn pryd ceisiodd hybu ei obeithion am yrfa seciwlar; fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros Drefaldwyn ym 1624.
Ond o fewn blwyddyn fe'i ordeiniwyd yn ddiacon, wedi iddo gael ei annog i ddychwelyd at ei yrfa wreiddiol gan ei fam a chan y bardd John Donne, a oedd yn gyfaill agos i'r teulu.
Serch hynny, aeth llawer blwyddyn heibio cyn i Herbert fynd yn offeiriad.
Treuliodd gyfnod hir mewn afiechyd, gan deimlo ei hun yn annheilwng o'i alwedigaeth, ond ar yr yn pryd yn gwrthod derbyn ei ffawd.
Mynd yn offeiriad
Wedi cael adferiad iechyd ym 1629, priododd, ac yn y flwyddyn ganlynol derbyniodd reithoriaeth Fulston a Bemerton ger Caersallog.
Treuliodd ei dair blynedd olaf yn ymroi i'w ddyletswyddau clerigol, yn trefnu atgyweirio ei eglwysi, yn canu cerddoriaeth ac yn ysgrifennu.
Ymddangosodd ei lyfr cyntaf, The Temple, ychydig fisoedd wedi ei farwolaeth ym 1633.
Mae'r cerddi, a drefnwyd o gwmpas gwyliau'r flwyddyn eglwysig, yn ceisio mynegi cariad Duw tuag at Ddynolryw.
Er na cheir yma'r ddrama dymhestlog a gorboeni am farwolaeth a welir ym marddoniaeth Donne, maent yn cynnwys ing, anobaith, esmwythyd a gorfoledd y bardd, y cyfan o fewn cyd-destun byd naturiol, cartrefol, eglwysig a chymdeithasol ei oes.
Menter lenyddol
Mae'r iaith yn fanwl gywir ac mae'r bardd yn wir feistr ar y volte face i ddiweddu ei gerddi.
Yr un mor trawiadol oedd y rhychwant o wahanol ffurfiau mydryddol a ddefnyddiai i gyfleu effaith: gweler, er enghraifft, siap printiedig ei gerdd 'Easter Wings'.
Cyhoeddwyd ei waith sylwedddol arall, A Priest to the Temple, sef traethodyn mewn rhyddiaith ar ddyletwswyddau offeiriad gwlad, yn ei gyfrol Remains (1652). Claddwyd gweddillion y bardd yn Bemerton ac fe'i coffheir yn Little Gidding, eglwys a ddathlwyd yn Four Quartets T.S.Eliot, 'where prayer has been valid'.
Cafodd cerddi George Herbert ddylanwad ar Henry Vaughan a beirdd crefyddol eraill yr ail ganrif ar bymtheg, a golygodd R.S.Thomas ei waith: A Choice of George Herbert's Verse (1967).
Meic Stephens