Clerigwr gwledig a ddaeth yn ddyddiadurwr byd-enwog
Sais oedd Francis Kilvert, ac awdur un o'r dyddiaduron enwocaf yn yr iaith Saesneg. Ond trigodd am o leiaf saith mlynydd yng Nghymru - yng Nghleirwy, pentref bychan dros yr afon Wy heb fod yn bell o'r Gelli Gandryll, lle oedd yn gurad gydag Eglwys Loegr.
Yng Nghleirwy ysgrifennodd y rhannau mwyaf bywiog a difyr o'i ddyddiadur hefyd ac yn ei bortread o gefn gwlad y rhan yma o Gymru, ei phobl, ei thirweddau, ei harferion a'i hanes, mae wedi swyno cenhedlaethau o ddarllenwyr.
Oddi ar ei gyhoeddi mewn tair gyfrol rhwng 1938 a 1940 mae Kilvert's Diary ymhlith yr enwocaf a'r mwyaf darllenadwy o'i fath.
Marw'n ifanc
Ganwyd Kilvert, yn fab i glerigwr, yn Hardenhuish ger Chippenham yn Wiltshire ym 1840, ac fe gafodd ei addysg yng Ngholeg Wadham yn Rhydychen.
Daeth i Gleirwy yn Sir Faesyfed ym 1865 nes ei benodi i fywoliaeth Saint Harmon yn Sir Faesyfed; symudodd oddi yno i Frodorddyn yn swydd Henffordd, ychydig dros y ffin yn swydd Henffordd, lle bu farw o beritonitis yn 1849, rhyw bum wythnos ar ôl iddo briodi.
Mae'r dyddiadur yn cofnodi'r cyfnod rhwng Ionawr 1870 hyd fis Mawrth 1879. Roedd yn cynnwys yn wreiddiol tua deg ar hugain o lyfrau nodiadau, dros filiwn o eiriau, ond dinistriwyd y rhan fwyaf ohonynt - rhai gan ei weddw a'r gweddill gan nith yr awdur am resymau anhysbys, a dim ond tri a oroesodd; mae dau ohonynt yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Dirgelwch y dyddiaduron coll
Dichon y gellir egluro'r drychineb lenyddol hon o golli rhan fwyaf o lyfrau nodiadau gwreiddiol o gofio bod yn y dyddiaduron elfen gref o deimladrwydd braidd yn erotig yr oedd yn well gan berthnasau y dyddiadurwr gelu rhag y cyhoedd.
Megis Lewis Carroll, roedd Kilvert yn hoff iawn o ferched ifainc, ond rhaid ychwanegu ei fod yn edmygu harddwch merched hŷn hefyd.
Ym marn ei edmygwyr, serch diniwed gŵr ifanc a hiraethu am briodi a chael plant ei hun a oedd yn gyfrifol am y gogwydd hwn.
Poblogaidd gyda'r cefnog
Boed hynny fel y bo, mae'r dyddiadur yn llawn o ryw asbri barddonol.
I Kilvert roedd bywyd yn 'rhywbeth cywrain rhyfeddol' y byddai'n resyn peidio â'i gofnodi 'waeth pa mor ostyngedig a ddiddigwydd' ydoedd.
Er ei fod yn gurad tlawd, roedd ganddo un fantais fawr: yn Eglwyswr brwd ac o deulu da, cafodd groeso gan fonedd Y Gelli a'r cylch ar ddwy ochr yr afon, ond ar yr un pryd roedd yn boblogaidd iawn ymhlith tlodion y plwyf.
Mae'r dyddiadur, o ganlyniad, yn bortread llawn ac eithaf cytbwys o fywyd ardal wledig yn oes Victoria, ardal nad oedd wedi teimlo eto effeithiau yr oes ddiwydiannol newydd.
Dawn ddyddiadurol
Nid oedd Kilvert yn ysgolhaig ac mae yn aml yn orsentimental ym marn deallusion heddiw, ond mae ei ddawn i ddewis y ddelwedd iawn, ei fanylder dreiddgar, ei ffordd arbennig o greu awyrgylch ardal a phobl, yn ei osod ymhlith y dyddiadurwyr mwyaf.
Yr oedd yn gerddwr brwd (gan ei fod yn rhy dlawd i brynu ceffyl), ac mae hanes ei deithiau o Gleirwy i Aberedw, i Gapel-y-ffin i ymweld â'r Tad Ignatius ac i weld y Parchedig John Price, offeiriad ecsentig Llanbedr Castell-paen, ymhlith rhannau mwyaf cofiadwy'r dyddiadur.
Roedd gan Kilvert ddiddordeb yn y Gymraeg ac yn llên gwerin ein gwlad.
Yn fynych iawn mae'n taro nodyn tristach wrth ysgrifennu am ei fethiannau rhamantaidd, megis ei deimladau tuag at Daisy Thomas, merch ficer Llaneigon: yn lle cyffesu ei serch i'r ferch, aeth at ei thad, a chael ei wahardd rhag meddwl ymhellach amdani ar dir ei fod yn gurad tlawd.
Claddwyd Kilvert ym mynwent eglwys Brodorddyn.
Gwelir plac er cof amdano yn yr eglwys yng Nghleirwy.
Mae Cymdeithas Kilvert, a sefydlwyd ym 1948, yn cadw'r cof amdano yn fyw ymhlith ei edmygwyr ledled y byd.
Meic Stephens