Hanesydd gwerin ac ysgrifwr
Hanesydd gwerin ac ysgrifwr oedd Ffransis Payne. Treuliodd ran fwyaf ei oes proffesiynol ar staff yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, a diwylliant gwerin oedd ei brif os nad ei unig ddiddordeb fel llenor. Dyn tawel ydoedd, nid heb hiwmor, braidd yn or-ffurfiol efallai, ond yn fonheddwr i'r carn.
Ganwyd Ffransis George Payne yng Ngheintwn yn swydd Henffordd ym 1900. Mae'r dref fach prin ddwy filltir dros y ffin o'r hen Sir Faesyfed, a chyda'r sir honno y'i cysylltwyd ef yn bennaf.
Pan oedd yn ddyn ifanc bu'n gweithio ar fferm am rai blynyddoedd, profiad a oedd yn werthfawr iawn iddo yn nes ymlaen. Graddiodd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac ennill gradd MA Prifysgol Cymru.
Gyrfa ym myd hanes
Ym 1931 fe'i penodwyd yn guradur Amgueddfa Cymdeithas Hynafiaethol Sir Gaerfyrddin, cyn symud ym 1934 i swydd catalogydd Cymraeg yn llyfrgell Coleg y Brifysgol, Abertawe.
Ymunodd â staff Adran Bywyd Gwerin yr Amgueddfa Genedlaethol gan symud i'r Amgueddfa Werin pan y'i sefydlwyd ym 1947 o dan ei Guradur cyntaf, Iorwerth C. Peate.
Ym 1963 daeth yn bennaeth Adran Diwylliant Materol yn Sain Ffagan, ac yno arhosodd hyd ymddeol.
Ym 1954 cyhoeddwyd ei draethawd MA dan y teitl Yr Aradr Gymreig, campwaith a ddangosodd adnabyddiaeth drylwyr o'i bwnc o amser y Rhufeiniaid hyd oes y tractor.
Manylir ar nodweddion yr aradr ac ar arferion a dulliau'r amaethwr ymhob oes, ac esbonnir y modd yr addesid y naill fel y llall yn ôl gofynion yr hinsawdd a'r ddaear.
Dengys y gyfrol hon fwynhad yr awdur o lenyddiaeth ein gwlad ar hyd y canrifoedd.
Profiadau llyfrwerthwr teithiol
Gwnaeth ddetholiad o ddeg o'i ysgrifau yn y gyfrol Chwaryddion Crwydrol (1943), sy'n cynnwys un sy'n dwyn y teitl 'Pacmon yng Ngheredigion' lle disgrifia'r awdur ei ymdrechion truenus i werthu llyfrau Cymraeg yng nghefn gwlad Sir Aberteifi, sy'n gofyn y cwestiwn, 'A ydyw'r Cymry mor hoff o ddarllen ag y tybir eu bod?'
Ymhlith yr atebion swta a gafwyd oedd hwn ger y Sarnau: 'Does dim ishe llyfre Cwmrâg yma: mae'r iaith yn dal ei thir ffor' hyn.' A chaewyd y drws yn ei wyneb.
Er mwyn ceisio cyfleu ansawdd rhyddiaith Ffransis Payne, mae'n werth, efallai, dyfynnu o adolygiad gan Saunders Lewis o Chwaryddion Crwydrol yn Y Faner (22 Medi 1943):
'Dyma lenor yn wir. Fe ddowch chwithau, bob un ohonoch sy'n adnabod blas llenyddiaeth gain, i'r un ddedfryd cyn i chwi orffen trydedd paragraff y llyfr hwn ... Canys llenor gwir Gymreig yw Mr Ffransis Payne, llenor o'r math Cymreiciaf a gorau ... Dwg i'n llenyddiaeth ni wybodaeth a diddordebau amheuthun, ie, a phrofiad amlochrog a helaeth, meddwl annibynnol, cefndir newydd, safbwynt artist o edrych ar fywyd a'i farnu. Y mae ei lyfr i mi fel rhyw hen win aeddfed y bydd dyn yn ei sipian yn araf ac ystyriol, mewn cwmni tawel a choeth, noson o aeaf, megis potelaid o Cockburn 1912.'
Cyfrannodd Ffransis Payne yn ogystal ddwy gyfrol feistrolgar ar Sir Faesyfed i'r gyfres Crwydro Cymru (1966, 1968).
Ymddangosodd casgliad o'i erthyglau ac ysgrifau yn y gyfrol Cwysau ym 1980.
Bu farw yr awdur ym 1992.
Meic Stephens