Hanesydd, gwleidydd ac ysgrifwr
Hanesydd yn anad dim oedd Ambrose Bebb, er ei fod yn amlwg yn rhengoedd Plaid Cymru am gyfnod o ryw bymtheg mlynedd. Roedd yn arbennig o hoff o Ffrainc, gan ysgrifennu'n helaeth am y wlad honno.
Bu penderfyniad Plaid Genedlaethol Cymru i fabwysiadu polisi o niwtraliaeth tuag at yr Ail Rhyfel Byd yn wrthun ganddo, gan ei fod yn dra awyddus i amddiffyn diwylliant Ffrangeg, a oedd wedi cyfrannu gymaint i wareiddiad Ewrop, rhag Natsïaeth.
Brodor o Goginan, Sir Aberteifi, a mab fferm, oedd Ambrose Bebb; ganwyd ef ym 1894.
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle darllennodd Hanes.
Dylanwad Charles Maurras
Treuliodd bedair mlynedd ym Mharis yn fyfyriwr yn y Collège de France ac yn ddarlithydd Cymraeg yn y Sorbonne.
Yno daeth dan ddylanwad Charles Maurras, y Cenedlaetholwr Ffrengig, a'i blaid geidwadol, brenhinol, asgell-dde, sef yr Action Française.
Cyhoeddodd ddetholiad o'i fyfyrdodau am wareiddiad Ewrop yn y gyfrol Crwydro'r Cyfandir ym 1936.
Daeth yn ôl i Gymru ym 1925 i gymryd swydd yn diwtor yn y Coleg Normal, Bangor, ac yno yr arhosodd am weddill ei oes.
Ymddiddori yn Llydaw
Roedd ganddo ddiddordeb hefyd yn Llydaw, lle teithiodd ar adeg pan oedd y mudiad cenedlaethol yn ei hanterth.
Dysgodd yr iaith Llydaweg ac roedd ganddo lu o gyfeillion yn y wlad.
Cyfrannodd nifer mawr o erthyglau i'r papur Breiz Atao. Yn ei dair gyfrol Llydaw (1929), Dyddlyfr Pythefnos (1939) a Pererindodau (1941) ceir darlun personol o arweinwyr y mudiad a oedd, ym marn rhai, yn gyfrifol am ledaenu syniadau anghywir difrifol.
Er ei fod yn feirniadol o bolisïau Ffrainc tuag at Lydaw, ni phallodd ei edmygedd o Ffrainc fel un o gadarnleoedd diwylliant Ewrop.
Cenedlaetholdeb Cymreig
Am Gymru cyhoeddodd pum lyfr, sef Ein Hen, Hen Hanes (1932), Llywodraeth y Cestyll (1934), Machlud y Mynachlogydd (1937), Cyfnod y Tuduriaid (1939), a Machlud yr Oesoedd Canol (1950).
Ei nod fel hanesydd oedd deffro brwdfrydedd yn hanes y Cymry ymhlith ei ddarllenwyr.
Er bod y llyfrau hyn yn dderbyniol iawn yn eu dydd, maent wedi colli eu bri ac mae Bebb yr hanesydd wedi mynd yn angof.
Arloeswr cenedlaetholdeb
Roedd Ambrose Bebb ymhlith yr ychydig a ddaeth ynghyd i sefydlu Y Mudiad Cymreig ym 1924, grwp a dyfodd yn y man i fod yn Blaid Genedlaethol Cymru.
Roedd ymhlith gweithwyr selocaf y Blaid hyd at yr Ail Ryfel Byd.
Ennillod sedd ar Gyngor Dinas Bangor yn enw'r Blaid ym 1939.
Wedyn daeth y gweryl gyda'r arweinwyr eraill, ac enciliodd Bebb o fywyd gwleidyddol ein gwlad.
Ond ym 1945, wedi taer bwyso arno, cytunodd i sefyll fel ymgeisydd y Blaid yn yr Etholiad Seneddol yn Sir Gaernarfon, pan ddaeth yn drydedd ar ôl cynrychiolwyr y Blaid Llafur a'r Blaid Rhyddfrydol, gyda rhyw 5% o'r pleidleisiau a fwriwyd.
Troi'n fwy at grefydd
Tua diwedd ei fywyd rhoddai Bebb mwy o bwyslais ar grefydd nac ar wleidyddiaeth; mynegodd ei ffydd Gristnogol yn y gyfrol a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, sef Yr Argyfwng (1956).
Roedd yn bleidiol iawn i'r Ysgol Sul. Credai'n angerddol fod cyflwr cenedl yn dibynnu mwy ar ei chrefydd nac ar ei wleidyddion.
Er gwaethaf ei edmygedd o Ffrainc, ni chafodd ei ddenu gan Gatholigiaeth.
Ysgrifennodd Bebb Gymraeg cyhyrog a synhwyrol. Roedd ei argyhoeddiad a'i ddiffuantrwydd yn amlwg ym mhopeth a ysgrifennodd.
Roedd yn arddel, yn aml iawn, eiriau ac ymadroddion ei dafodiaith ei hun, gyda chanlyniadau hyfryd fel arfer.
Cyhoeddodd dair nofel yn ogystal : Y Baradwys Bell (1941), Gadael Tir (1948) a Dial y Tir (1945).
Bu farw ym Mangor ym 1955.
Meic Stephens