Chwaraewr rygbi i Lanelli a Chymru
Wyddech chi? :ysgytlaeth ydy ei hoff ddiod!Ganwyd Mark Jones yn Llanfair-ym-Muallt ar 7 Tachwedd 1979 ac fe'i magwyd ar ffarm ddefaid a gwartheg y teulu yn Llafan Fawr gyda'i ddau frawd a'i rieni Brenda a Gwyn.
Yn hogyn ifanc, fe aeth Mark i Ysgol Gynradd Dyffryn Irfon yn Garth. Yn ddiweddarach, fe aeth i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt ac yno y dangosodd ei fedr mewn athletau a rygbi.
Yn ystod ei flynyddoedd yn yr ysgol, roedd yn chwarae i dîmau ieuenctid Clwb Rygbi Llanfair-ym-Muallt ac yn chwarae i'r tîm dan-19 llwyddiannus a phryd hynny y gwahoddwyd ef gyntaf i chwarae dros dîm ieuenctid Cymru.
Yn ifanc iawn, fe arwyddodd i dîm rygbi Llanymddyfri ac yn ystod ei dymor cyntaf yn y tîm llawn, ef oedd y sgorïwr uchaf yn y Gynghrair.
Y tymor canlynol arwyddodd i dîm rygbi Llanelli ac yno y mae hyd heddiw. Ymddangosodd am y tro cyntaf yn y crys coch yn Stadiwm y Mileniwm mewn gêm yn erbyn y Saeson yn 2001 ac hyd yn hyn mae wedi ennill 11 cap ac wedi sgorio pedwar cais.
Mae Mark yn byw erbyn hyn yng Nghaerdydd ond mae ei gysylltiad â Llanfair-ym-Muallt yn dal yn agos gan mai ef oedd hyfforddwr y tîm yn 2002/2003.
Ffeil-o-ffeithiau
Enw llawn: Mark Anthony Jones
Ffugenw: Boyce
Taldra: 6' 2"
Pwysau: 13st 7lb
Ei funud fawr: ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn 2001