Chwaraewr pêl droed dros Everton a Gweriniaeth Iwerddon ond a anwyd yn Llanfair-ym-Muallt.
Ganwyd y chwaraewr pêl-droed Kevin Sheedy yn Llanfair-ym-Muallt ond enillodd 45 o gapiau dros Weriniaeth yr Iwerddon.Dechreuodd ei yrfa yn ei arddegau yn Hereford United ac yna cyfnod byr iawn yn Lerpwl cyn symud i Everton am £100,00 yn 1982.
Roedd yr asgellwr chwith hwn yn allweddol yn llwyddiant Everton yn yr 1908au, yn ennill Cwpan yr FA a phencampwriaeth y Gynghrair yr un flwyddyn sef 1984, Cwpan enillwyr Ewrop yn 1985 a'r Gynghrair eto yn 1987.
Ar y llwyfan rhyngwladol, dewisodd chware dros y Weriniaeth gan iddo deimlo mai yno y byddai'n cael y cyfle gorau i chwarae ac fe aeth i gwpan y Byd yn 1990. Fe wnaeth ei benderfyniad yn llanc 16 oed yn Hereford ac mae'n cydnabod nad oedd y dewis yn un hawdd.
"Fe bwysodd y penderfyniad yn drwm ar fy meddwl, ac fe'm rhwygwyd rhwng y ddwy wlad ac roedd o'n benderfyniad agos. Ond dw i'n meddwl imi wneud y penderfyniad iawn gan imi chwarae yn ddiweddarach yng Nghwpwn y Byd a Phencampwriaeth Ewrop."
Ei berfformiad mwyaf nodedig yn rhyngwladol oedd yn yr Eidal yn 1990 pan sgoriodd yn erbyn Lloegr.
Gadawodd Parc Goodison yn 1992 ac ymuno â Newcastle United gan chwarae'n ddiweddarach i Blackpool.
Er iddo roi'r gorau i chwarae, mae wedi gweithio fel dirpwy reolwr yn Nhranmere a Hartlepool.
Ei funud fawr: sgorio gôl yn erbyn Lloegr yn Italia 90.