Golffiwr byd-enwog. Fe oedd Rhif 1 y Byd yn 1991 ac mae wedi ennill y rhan fwyaf o'r twrnamentau mwyaf.
Ian Woosnam"Mae bywyd yn rhy fyr i fod yn y gampfa o hyd. Rwy hoffi mwynhau fy hunan gyda pheint o gwrw neu ddau."
Er gwybodaeth: Mae Woosnam yn hedfan ei awyren ei hun ac mae ganddo gwrs pytio golff wrth ymyl ei dŷ.
Bywgraffiad: Ganwyd Ian Woosnam ar fferm laeth yng Nghroesoswallt, Sir Amwythig - ychydig dros y ffin - ar yr 2il o Fawrth 1958. Er gafodd e ei eni yn Lloegr, mae ei ddau riant o Gymru ac mae ef o hyd wedi ystyried ei hun yn Gymro. Roedd 'Woosie', fel mae rhai yn ei alw, yn saith mlwydd oed pan ddechreuodd chwarae golff. Dysgodd yn y clwb golff lleol yn Llanymynech, Powys, lle y mae 15 twll yng Nghymru a 3 dros y ffin yn Sir Amwythig.
Mae gwefan y clwb yn cofnodi ymateb rhai o gyd-aelodau Woosie yn y 1970au, pan gyhoeddodd ef am y tro cyntaf ei fwriad i chwarae yn broffesiynol: "Treuliodd sawl un o'i gyd-aelodau a chwaraewyr eraill o'r sir ddyddiau yn pledio ag ef i beidio â bod mor ffol. Credant nad oedd ef ddim gwell na miloedd o amaturiaid eraill, gan gynnwys nhw eu hunain, ac un dydd y byddai'n difarru'r penderfyniad hwn."
Efallai eu bod nhw ychydig yn or-besimistaidd, er roedd ei flynyddoedd cyntaf yn anodd iawn. Wedi iddo gael mynediad i'r 'Garfan Ewropeaidd', treuliodd y pum mlynedd nesaf yn gyrru o amgylch y cyfandir mewn fan VW, yn byw ar ffa pob. Yn ystod yr amser hyn fe enillodd ond rhyw £6,000 ond daliodd ati, ac yn y pendraw fe gafodd lwyddiant ym 'Mhencampwriaeth Agored y Swistir' yn 1982. Yn 1987 fe enillodd wyth twrnament gwahanol ac roedd ymysg yr enillwyr mwyaf yn y 'Garfan Ewropeaidd'. Ef oedd yr Ewropead cyntaf i ennill dros miliwn o ddoleri mewn un tymor.
Yn 1988, enillodd y 'Bencampwriaeth PGA Prydeinig'. Tair mlynedd, a sawl twrnament yn ddiweddarach, fe'i enwyd Rhif 1 yn y byd, ac wythnos ar ôl hyn roedd yn dathlu buddugoliaeth yn un o gystadlaethau mwyaf enwog byd golff - 'Y Teitl Meistr UDA' 1991.
Ymysg ei lwyddianau mawr eraill roedd y 'Bencampwriaeth Ewropeaidd Agored'(1988), y 'Bencampwriaeth Albanaidd Agored'(1987 a 1990), y 'Bencampwriaeth Wyddelig Agored'(1988 a 1989) a 'Cwpan Dunhill'(1985-1986, 1988-1991, 1993).
Mae hefyd wedi chwarae yn gyson yn 'Digwyddiadau Carfan Ewropeaidd y PGA'. Mae wedi cynrychioli Cymru dros 15 gwaith yng 'Nghwpan y Byd'.
Y Dewin Cymraeg
Curodd Woosnam record arall yn 2001 pan enillodd 'Gystadleuaeth y Byd Cisco' yn Wentworth. Mewn gornest hynod o afaelgar, daeth Woosnam i fod y chwaraewr cyntaf i ennill y gystadleuaeth dros dri degawd yn olynol (1987, 1990, 2001). Yn 43 mlwydd oed, ef hefyd oedd yr hynaf erioed i gymryd y teitl.
Ond dydy e ddim wedi bod yn lwcus bob tro. Yn 2001 collodd Woosnam dau ergyd a'i gyfle i ennill y 'Bencampwriaeth Prydeinig Agored', am gael y nifer anghywir o glybiau golff yn ei fag. Cefnogodd Woosnam ei 'caddie' ar y pryd ond diswyddodd ef bythefnos yn ddiweddarach pan gysgodd yn hwyr a cholli dechrau y 'Meistri Scandinafaidd'. Bu rhaid i Woosnam dorri i fewn i'w stordy er mwyn cael ei sgidiau golff gan fod yr allwedd gyda'r 'caddie'.
'Cwpan Ryder'
Ar ei benblwydd yn 47 ym mis Mawrth 2005, cyhoeddwyd fod Woosnam wedi cael ei ddewis i gapteinio y Tîm Ewropeaidd yng 'Nghwpan Ryder' 2006. Roedd wedi chwarae yn gyson i'r tîm ers 1983 ac ef oedd yr Is-Gapten yn 2002 pan helpodd arwain y tîm i fuddugoliaeth yn Belfry.
"Am ffordd wych i ddathlu fy mhenblwydd! Mae hwn yn rhywbeth fyddai'n gwerthfawrogi am weddill fy oes", meddai Woosnam wedi'r cyhoeddiad.
"Mae hyn yn fy ngwneud i'n falch dros ben, yn arbennig gan fod gan Gymru draddodiad cryf o gynhyrchu captainiaid 'Cwpan Ryder'".
Yn bum troedfedd a phedwar modfedd, mae gan Woosnam allu arbennig i fwrw'r bêl yn bell. Heblaw am golff, mae ei ddiddordebau yn cynnwys pysgota, chwaraeon a snwcer (fe oedd olynydd yr Arglwydd Archer fel Llywydd Cymdeithas Snwcer y Byd yn 1999). Mae ganddo awyren bersonol i'w hun.
Mae ganddo ef a'i wraig Glendryth dri o blant. Maent yn byw yn Jersey, ond maent yn ymweld â Chymru yn gyson.