BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Chwaraeon
Dafydd Jones
Dafydd Jones

Ganwyd: 24 Mehefin 1979

Magwyd: Aberystwyth, magwyd yn Aberaeron.

Addysg: Ysgol Uwchradd Aberaeron


Chwarae rygbi rhyngwladol dros Gymru ac yn aelod o dîm rygbi Llanelli

Er gwybodaeth: Ei hoff ffilm yw Gladiator

Bywgraffiad:
Ganwyd Dafydd Jones yn Aberystwyth ac fe'i fagwyd ym mhentref Llanarth, ger Aberaeron. Mynychodd ysgol y pentref cyn mynd i Ysgol Uwchradd Aberaeron. Yma fe ddechreuodd ddatblygu ei sgiliau ar y cae rygbi. Chwaraeodd dros Aberaeron cyn ymuno â chlwb rygbi Llanymddyfri. Ar droad y ganrif fe symudodd i un o dimoedd mwyaf Cymru, Llanelli.

Mae'n ddyn mawr a chyflym dros ben. Chwaraeodd dros Lanelli am y tro cyntaf yn Awst 1999 yn erbyn Leicester. Fel sawl chwaraewr roedd chwarae dros Gymru yn uchelgais mawr iddo. Gwireddwyd y freuddwyd hon yn ystod Tachwedd 2002 pan ddaeth i fod y 165ain Scarlet i wisgo crys Cymru. Perfformiodd yn wych yn ystod ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn Fiji yn ystod Cyfres Ryngwladol yr Hydref BT yn Stadiwm y Mileniwm. Yn ôl rhai dyma oedd y perfformiad cyntaf orau ers i'w gyd-flaenasgellwr, Brett Sinkinson, ennill ei gap cyntaf yn erbyn Ffrainc yn 1999.

Adeiladodd ar y sylfaen arbennig hwn drwy rhoi perfformiad cryf iawn yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2003. Yn anffodus daeth y tymor ar nodyn isel wrth iddo gael ei anfon oddi ar y cae am stampio yn erbyn Perpignan yng Nghwpan Heineken ac fe'i waharddwyd rhag chwarae am chwech wythnos.

Chwaraeodd am y tro cyntaf yng Nghwpan y Byd yn erbyn Canada, ac yna ennill ei gais ryngwladol cyntaf yn erbyn yr Eidal - cais sicrhaodd fuddugoliaeth i'r tîm. Yn ôl rhai mae e wedi dysgu lot gan aelod arall o rheng ôl Llanelli, Scott Quinnell, ac mae'n gobeithio cyrraedd yr un mesur o lwyddiant ar y cae.

Cynrychiolodd ei wlad ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2004 ac roedd yn y tîm hefyd yn ystod tymor 2005. Chwaraeodd am awr gyntaf y gêm agoriadol yn erbyn Lloegr ar y pumed o Chwefror ond bu rhaid iddo ymatal rhag chwarae am weddill y bencampwriaeth oherwydd anaf i'w belfis.

Roedd yn ôl ar y cae erbyn Tachwedd 2005 pan fe'i enwyd i dîm Cymru ar gyfer Gemau Rhyngwladol yr Hydref yn erbyn Seland Newydd, Fiji, De Affrica ac Awstralia.

  • Gwefan Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy