 |
 | Chwaraewr pêl droed rhyngwladol
Mae Carl Robinson yn chwaraewr canol cae allweddol yn sgwad rhyngwladol Cymru ac eisoes enillodd dros ddwsin o gapiau.Ganwyd ef yn Llandrindod ac fe amlygodd dalent i chwarae pêl droed yn ifanc. Fe chwaraeodd gyntaf i dîm dan 11 oed Rhaeadr ac fel fachgen ifanc roedd o'n aelod cyson o dwrnament Ian Rush yn flynyddol yn Aberystwyth. Cynrychiolodd Robinson ei wlad yn gyntaf fel aelod o sgwad dan 21 Cymru. Fe welodd Wolverhampton Wanderers dalent yn yr hogyn ifanc a chynnig lle iddo yno dan hyfforddiant yn 1995 pan oedd o'n 18 oed. Fe chwaraeodd Robinson ei gêm gyntaf i Wolves yn ystod tymor 1996-7 ac fe dreuliodd chwe tymor arall efo'r clwb cyn ymuno â Portsmouth yng Ngorffennaf 2002. Fe enillodd ei gap llawn cyntaf ym Mawrth 2001 mewn gêm rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn yr Wkran. Enillodd ei befformiad ar Stadiwm y Mileniwm 'Chwaraewr y Gêm' iddo. Yn Ionawr 2003, fe aeth y chwaraewr canol cae ar fenthyg am fis o Portsmouth i Sheffield Wednesday ac yna i Walsall am bum mis. Methodd Robinson gael lle yn nhîm Portsmouth ar gyfer y gêm gyntaf y tymor 2003-04 yn erbyn Aston Villa. Ei funud fawr : chwarae dros Gymru yn ei gêm gyntaf ym Mawrth 2001
 |  |  |
 |  | Cyfrannwch i'r dudalen hon! |  | |
| 
|